1Trachefn, pan fyddo un yn ymbaratoi i fordwyo, ac ar fyned trwy donnau geirwon, efe a waedda ar bren pydrach na’r llong a fyddo yn ei ddwyn ef:
2Oblegid chwant i elw a ddychmygasai honno, a thrwy ei gelfyddyd y gwnaeth y gweithiwr hi.
3Eithr dy ragluniaeth di, O Dad, sydd yn ei llywodraethu: oblegid ti a roddaist ffordd yn y môr, a llwybr diogel yn y tonnau;
4Gan ddangos y gelli di achub rhag pob peth, ie, ped elai dyn i’r môr heb gelfyddyd.
5Eto ti a fynni na byddo gweithredoedd dy ddoethineb yn segur: am hynny yr ymddiried dynion i dipyn o bren am eu heinioes, a chan dreiddio trwy’r garw fôr mewn llestr gwan, ydynt gadwedig.
6Ac yn y dechreuad pan ddifethwyd y cewri beilchion, gobaith y byd, trwy ffoi i long, a adawodd i’r byd had genedigaeth, wedi ei llywodraethu â’th law di.
7Canys bendigedig yw’r pren trwy yr hwn y daw cyfiawnder:
8Eithr melltigedig yw’r hyn a wnaed â llaw, a’r hwn a’i gwnaeth: hwn am iddo ei weithio ef; a hwnnw, am ei alw ef yn dduw, ac yntau yn llygredig.
9Yr annuwiol a’i annuwioldeb ydynt mor gas gan Dduw bob un â’i gilydd:
10Oherwydd yr hyn a wnaed, ynghyd â’r hwn a’i gwnaeth, a gosbir.
11Am hynny y bydd ymweliad ar eilunod y Cenhedloedd; am eu gwneuthur hwy ymysg creaduriaid Duw yn ffieidd-dra, ac yn dramgwydd i eneidiau dynion, ac yn fagl i draed y rhai angall.
12Canys dechreuad godineb ysbrydol oedd ddychmygu eilunod, a’u caffaeliad hwy oedd lygredigaeth buchedd.
13Oblegid o’r dechreuad nid oeddynt hwy, ac ni byddant yn dragywydd chwaith.
14Trwy ofer ffrost dynion y daethant i’r byd; ac am hynny y bydd eu diwedd ar fyrder.
15Y tad yn gystuddiol trwy anamserol alar am ei fab, yr hwn a ddygwyd ymaith yn gynnar, gwedi gwneuthur iddo ef ddelw, yn awr a’i haddolodd megis yn dduw, yr hwn oedd y pryd hwnnw yn ddyn marw, ac a roddes i’r rhai oedd dano seremonïau ac aberthau.
16Yna y cadwyd, yn lle cyfraith, yr annuwiol ddefod, yr hon a gryfhasai mewn amser; ac wrth orchymyn teyrniaid yr addolwyd delwau cerfiedig:
17Y rhai ni allai dynion eu hanrhydeddu yn eu gŵydd, am eu bod yn trigo ymhell, hwy a gymerasant lun eu gwedd hwynt o bell, ac a wnaethant hynod ddelw brenin, yr hwn a anrhydeddent, er mwyn trwy eu dyfalwch hwn wenieithio iddo ef oedd absennol, fel pe bai bresennol.
18A chwant y crefftwr i gael anrhydedd, a anogodd yr annysgedig i addoli fwyfwy.
19Oblegid efe ond odid yn ewyllysio rhyglyddu bodd llywydd, a ymegnïodd trwy ei gelfyddyd i osod y llun i’r gorau.
20A’r gwerin, wedi eu denu trwy degwch y gwaith, a gyfrifent yna yn dduw, yr hwn ychydig o’r blaen a berchid fel dyn.
21A hyn a fu yn achlysur i dwyllo’r byd: oherwydd dynion yn gwasanaethu mewn drygfyd a than drahauster, a roddasant i gerrig a phrennau yr Enw anghyfrannog.
22Wedi hynny nid oedd ddigon cyfeiliorni ynghylch adnabod Duw, eithr lle yr oeddynt yn byw ym mawr ryfel anwybodaeth, y mawr ddrygau hynny a alwent hwy yn heddwch.
23Oblegid tra oeddynt hwy yn lladd eu plant mewn aberthau, ac yn arfer dirgeledigaethau cuddiedig, neu yn gwneuthur ynfyd gyfeddach o seremonïau dieithr,
24Ni chadwent hwy na’u buchedd na’u priodas yn lân: y naill a laddai’r llall mewn cynllwyn, neu a’i gofidiai trwy odineb.
25Pob peth oedd yn gymysglyd, gwaed a chelanedd, lladrad a thwyll, llygredigaeth, anffyddlondeb, terfysg, anudon,
26Aflonyddwch i’r rhai da, angof am gymwynas, halogedigaeth eneidiau, cyfnewid genedigaethau, anllywodraeth mewn priodasau, godineb, ac anlladrwydd.
27Oblegid addoliad eilunod, y rhai ni ddylid eu henwi, yw dechrau, ac achos, a diwedd, pob drygioni.
28Canys tra fyddont hwy yn llawen, y maent hwy naill ai yn ynfydu, ai yn proffwydo celwydd, ai yn byw yn anghyfiawn, ai yn tyngu anudon yn hawdd.
29Oblegid tra ydynt hwy yn coelio i eilunod meirw, er iddynt dyngu yn ddrwg, nid ydynt yn disgwyl dialedd.
30Eithr fe ddaw iddynt hwy yr hyn sy gyfiawn am y ddau, sef am feddwl am Dduw ar fai, gan lynu wrth eilunod; a thyngu yn anghyfiawn ac yn dwyllodrus, gan ddirmygu sancteiddrwydd.
31Oblegid nid gallu y rhai y tyngir iddynt, eithr iawn gosb pechaduriaid, a ddaw byth ar drosedd y rhai anghyfiawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.