1O Arglwydd, Tad a llywydd fy holl einioes, na ad fi yn eu cyngor hwynt, ac na ad i mi syrthio trwyddynt.
2Pwy a esyd ffrewyllau ar fy meddyliau, ac addysg doethineb ar fy nghalon, fel na’m harbedont am fy amryfusedd, ac nad êl heibio i’m pechodau;
3Rhag cynyddu fy anwybodaeth, ac amlhau fy mhechodau i’m dinistr, a syrthio ohonof o flaen fy ngwrthwynebwyr, a llawenychu o’m gelynion arnaf, y rhai y mae eu gobaith yn bell oddi wrth dy drugaredd di?
4O Arglwydd Dad, a Duw fy mywyd, na ddod i mi olwg uchel; eithr tro oddi wrth dy weision feddwl cawraidd bob amser.
5Tro oddi wrthyf fi ofer obaith a chwant; a dal i fyny bob amser yr hwn a fynnai dy wasanaethu di.
6Na oddiwedded awydd i’r bol fi, na chwant y cnawd: ac na ddod fi dy was i fyny i feddwl digywilydd.
7Gwrandewch, blant, addysg genau cywir: a’r hwn a’i cadwo, ni ddelir ef byth yn ei wefusau.
8Y pechadur a adewir yn ei ffoledd: y difenwr a’r balch a ddifethir trwyddynt.
9Na arfer dy enau i dyngu, ac na ymgynefina ag enwi yr hwn sydd Sanctaidd.
10Oblegid megis ni bydd ychydig gleisiau ar y gwas a gurer yn wastadol; felly yr hwn a dyngo, ac a enwo Dduw bob amser, ni bydd lân oddi wrth bechod.
11Y gŵr a dyngo lawer a lenwir o anwiredd, ac nid ymedy dialedd â’i dŷ ef: os pecha efe, ei bechod fydd arno: ac os diystyr ganddo, y mae efe yn pechu y dau cymaint: os yn ofer hefyd y tyngodd efe, ni chyfiawnheir ef; oblegid fe a lenwir ei dŷ ef o ddialedd.
12Y mae ymadrodd wedi ei wisgo â marwolaeth: Duw a wnêl na chaffer hwnnw yn etifeddiaeth Jacob; oherwydd hyn oll a fydd bell oddi wrth y rhai duwiol, ac nid ymdrybaeddant hwy mewn pechodau.
13Nac arfer dy enau i anghymesurwydd o dyngu: oblegid y mae yn hynny ymadrodd pechadurus.
14Cofia dy dad a’th fam, pan fyddech yn eistedd ymysg pendefigion; rhag i ti anghofio ger eu bron hwynt, ac i ti wrth dy arfer ddihoeni, ac ewyllysio ohonot na’th anesid, a melltithio ohonot ddydd dy enedigaeth.
15Y dyn a ymarfero â geiriau gwaradwyddus, ni chymer addysg tra fyddo byw.
16Dau fath sydd yn pechu llawer, a’r trydydd sydd yn dwyn digofaint: Meddwl brwd sy fel y tân poeth, yr hwn ni ddiffydd nes ei ddarfod: dyn godinebus yn ei gorff cnawdol, yr hwn ni phaid, hyd oni chyneuo efe dân.
17Y mae pob bara yn felys gan ddyn godinebus; ni phaid efe nes ei farw.
18Dyn yn troseddu oddi wrth ei wely ei hun, gan ddywedyd yn ei galon, Pwy sydd yn fy ngweled? y mae tywyllwch o’m hamgylch i, ac y mae y parwydydd yn fy nghuddio, ac nid oes neb yn fy ngweled: beth sydd arnaf fi ei ofn? ni chofia y Goruchaf fy mhechodau i.
19Y cyfryw ddyn sydd yn ofni llygaid dynion yn unig, ac ni ŵyr fod llygaid yr Arglwydd goruchaf yn ddeng mil eglurach na’r haul, yn canfod holl ffyrdd dynion, ac yn ystyried y rhannau cuddiedig.
20Cyn creu dim, pob peth oedd hysbys iddo ef; ac wedi eu gorffen, y mae efe yn canfod y cwbl.
21Yn heolydd y ddinas y dielir ar hwn, ac efe a ddelir lle nis amheuodd efe.
22Felly y bydd y wraig sydd yn gadael ei gŵr, ac yn ceisio etifeddiaeth o arall:
23Oblegid yn gyntaf, hi a anufuddhaodd i gyfraith y Goruchaf; ac yn ail, hi a bechodd yn erbyn ei gŵr; ac yn drydydd, hi a dorrodd briodas trwy odineb, ac a ddug blant o ŵr arall.
24Honno a ddygir allan yn y gynulleidfa, ac fe fydd edrych ar ei phlant hi.
25Ni wreiddia ei phlant hi, ac ni ddwg ei changhennau hi ffrwyth.
26Ei choffadwriaeth a ad hi yn felltith, ac ni ddileir ei gwaradwydd hi.
27A’r rhai a adewir a gânt wybod nad oes dim well nag ofn yr Arglwydd, na dim felysach na gwylied ar orchmynion Duw.
28Gogoniant mawr yw dilyn Duw; a hir hoedl yw cael dy dderbyn ganddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.