1Y Simon hwnnw hefyd, am yr hwn y dywedasom o’r blaen, yr hwn oedd fradychwr yr arian a’i wlad, a ddywedodd yn ddrwg am Oneias, megis pe cymellasai efe Heliodorus, a phe buasai yn awdur o’r drygau hyn.
2Ac efe a feiddiodd alw y gŵr a haeddasai yn dda ar y ddinas, ac oedd ofalus am ei wladwyr, gŵr mawr ei sêl am y cyfreithiau, yn fradychwr.
3Pan gynyddodd y galanastra yn gymaint â lladd o un o’r rhai oedd gymeradwy gan Simon, gelanedd,
4Oneias, gan ystyrio enbydrwydd y gynnen hon, a bod Apolonius llywodraethwr Celo-Syria a Phenice yn ynfydu, ac yn chwanegu malais Simon;
5Efe a aeth at y brenin, nid i gyhuddo gwŷr ei wlad, ond fel un yn ceisio lles i bawb yn gyffredinol ac yn neilltuol:
6Canys efe a welodd fod yn amhosibl cael heddwch, oddieithr i’r brenin gymryd trefn yn y materion hyn, ac nad oedd debyg y peidiai Simon â’i ynfydrwydd.
7Ond wedi marw Seleucus, a chymryd o Antiochus, a gyfenwid Epiffanes, y frenhiniaeth, Jason brawd Oneias a weithiodd yn ddirgel i geisio bod yn archoffeiriad;
8Gan addo i’r brenin, er cael y swydd, dri chant a thrigain talent o arian, ac o ryw ardreth arall bedwar ugain talent.
9Am ben hyn, efe a addawodd dalu deg a deugain a chant eraill, os canhiadid iddo trwy ei awdurdod ef, osod campfa ac ysgol i’r gwŷr ieuainc, ac i gyfrif y rhai o Jerwsalem yn Antiochiaid.
10A phan gafodd efe yr archoffeiriadaeth trwy fodd y brenin, yn y man efe a ddenodd ei genedl ei hun i arferion y Groegwyr,
11Ac a fwriodd i lawr garedigol ragorfraint yr Iddewon, a gawsent hwy trwy Ioan tad Eupolemus, (yr hwn a fuasai yn genhadwr at y Rhufeiniaid i ddymuno cyfeillach a chymorth,) a chan fwrw i lawr y llywodraeth oedd wrth y gyfraith, efe a wnaeth newydd ordeiniadau anghyfreithlon.
12Canys efe a adeiladodd gampfa o’i wirfodd dan y castell, ac a ddarostyngodd y rhai pennaf o’r gwŷr ieuainc, ac a barodd iddynt wisgo hetiau.
13Ac fel hyn y tyfodd serch i ganlyn arferau y Cenhedloedd ac estroniaid, trwy ragorol aflendid Jason, nid yr archoffeiriad, ond y dyn annuwiol;
14Yn gymaint ag nad oedd yr offeiriaid mwyach yn ewyllysgar i wasanaethu’r allor; ond gan ddirmygu’r deml, ac esgeuluso’r ebyrth, yr oeddynt yn prysuro i fod yn gyfrannog o ddogn annuwiol eu campau, yn ôl taflu’r garreg;
15Ac heb ganddynt bris am anrhydedd eu tadau, gan gyfrif gogoniant y Groegwyr yn orau.
16O achos yr hyn bethau y daeth arnynt adfyd mawr, tra caffent hwy yn elynion ac yn ddialwyr iddynt, arferau y rhai yr oeddynt yn eu canlyn, ac yn dymuno eu bod yn gyffelyb iddynt ym mhob peth:
17Canys nid esmwyth yw gwneuthur yn erbyn cyfraith Dduw: ond yr amser a ddaw a ddengys hyn.
18Pan chwaraeid yn Tyrus y campau a arferid bob pum mlynedd, a’r brenin yn bresennol,
19Jason, y dyn ysgeler hwnnw, a ddanfonai genhadau o Jerwsalem yn rhith Antiochiaid, i ddwyn tri chan dryll o arian tuag at aberth Hercules, y rhai a ddeisyfai y neb oedd yn eu dwyn, na threulid ynghylch yr aberth, oblegid nad gweddaidd oedd, ond eu harbed i anghenraid arall.
20Efe a ddanfonodd y pethau hyn tuag at aberth Hercules: ond er mwyn y neb a’u dygent, hwy a roddwyd tuag at wneuthur llongau.
21Wedi danfon Apolonius mab Manasteus i’r Aifft, i goronedigaeth y brenin Ptolemeus Philometor, a phan ddeallodd Antiochus ei fod ef yn anffyddlon yn ei faterion ef, efe a fu ofalus am ei ddiogelwch ei hun: am hynny efe a ddaeth i Jope, ac oddi yno efe a aeth i Jerwsalem:
22Lle y croesawyd ef yn fawr gan Jason a’r ddinas, ac y dygwyd ef i mewn â ffaglau ac â llefain: ac yn ôl hyn efe a arweiniodd ei lu i Phenice.
23Hefyd yn ôl tair blynedd, Jason a ddanfonodd Menelaus brawd Simon, am yr hwn y soniasom o’r blaen, i ddwyn arian i’r brenin, ac i’w rybuddio ef am bethau anghenraid.
24Ond pan ddygwyd ef gerbron y brenin, efe a’i mawrygodd yn ei ŵydd, ac a gafodd yr archoffeiriadaeth iddo ei hun: canys efe a roddes amdani hi dri chan talent o arian mwy na Jason.
25Felly pan gafodd efe orchmynion oddi wrth y brenin, efe a ddaeth adref heb ynddo ddim yn haeddu yr archoffeiriadaeth, ond calon gorthrymwr creulon, a gwyniau anifail gwyllt.
26Felly Jason, yr hwn a dwyllasai ei frawd ei hun, wedi ei dwyllo gan arall, a’i fwrw allan, a ffodd i wlad yr Ammoniaid.
27Ond Menelaus, pan gafodd yr oruchafiaeth, ni chymerodd drefn iawn am yr arian a addawasai efe i’r brenin, ond Sostratus ceidwad y castell a’u gofynnodd hwy iddo:
28Canys i hwn y perthynai codi’r ardrethion: am hynny y ddau hyn a gyrchwyd gerbron y brenin.
29A Menelaus a adawodd yn yr archoffeiriadaeth Lysimachus ei frawd; a Sostratus a adawodd Crates, yr hwn oedd lywodraethwr Cyprus, yn ei le.
30Pan wnelid y pethau hynny, y digwyddodd i wŷr Tarsus a Malot wneuthur terfysg yn erbyn y brenin, oblegid eu rhoddi hwynt i Antiochis gordderch y brenin.
31Am hynny y brenin a ddaeth ar frys i ostegu’r derfysg honno, gan adael Andronicus, un o’r gwŷr pennaf ei awdurdod, yn rhaglaw iddo.
32Menelaus hefyd, gan dybio cael ohono amser cyfaddas, a gymerth rai o lestri aur y deml, ac a’u rhoddes i Andronicus, ac a werthodd eraill yn Tyrus a’r dinasoedd oddi amgylch.
33A phan wybu Oneias hyn yn hysbys, efe a’i hargyhoeddodd, ac a dynnodd o’r neilltu i noddfa yn Daffne, yr hon sydd yn ymyl Antiochia.
34Am hynny Menelaus a gymerth o’r neilltu Andronicus, ac a ddymunodd arno ddal Oneias: felly efe a ddaeth at Oneias, ac a’i perswadiodd ef trwy dwyll, gan roddi iddo ei law ddeau, a’i lw, er ei fod ef yn ei amau ef, ac a’i denodd i ddyfod allan o’r noddfa: felly yn ddisymwth efe a’i carcharodd ef, heb ganddo bris am gyfiawnder.
35Oherwydd paham, nid yr Iddewon yn unig, ond hefyd llawer o genhedloedd eraill, a gyffroesant, ac a fu drwm dros ben ganddynt anghyfiawn laddiad y gŵr hwn.
36Hefyd pan ddychwelodd y brenin o dueddau Cilicia, yr Iddewon, y rhai oedd yn y ddinas, a achwynasant wrtho, gan fod y Groegwyr hefyd yn cydsynio â hwynt, o achos atgasrwydd y weithred, oblegid lladd Oneias heb achos.
37Am hynny Antiochus a dristaodd yn fawr yn ei galon, ac a dosturiodd, ac a wylodd, oherwydd mawr diriondeb a gostyngeiddrwydd yr hwn a laddasid.
38Ac am hynny wedi ei enynnu â dicllonedd, efe a ddiosgodd Andronicus o’i borffor, ac a rwygodd ei ddillad ef, ac a’i harweiniodd ef o amgylch y ddinas i’r fan lle y lladdasai efe Oneias, ac yno y dieneidiodd efe y llofrudd: felly yr Arglwydd a dalodd iddo deilwng gosbedigaeth.
39Ond yn ôl i Lysimachus wneuthur llawer gweithred ddrwg yn y ddinas trwy gyngor Menelaus, a myned o’r chwedl allan, cynulleidfa a ymdyrrodd ynghyd yn erbyn Lysimachus; canys yn awr efe a ddygasai allan lawer o lestri aur y deml.
40Y cyffredin bobl a godasant ar hynny yn llawn llid, a Lysimachus a wisgodd ag arfau ynghylch tair mil o wŷr, ac a ddechreuodd wneuthur trawster; ac un Auranus oedd yn flaenor iddynt, yr hwn oedd wedi myned ymhell mewn oedran, ac nid dim llai mewn ynfydrwydd.
41Ond pan wybuant amcan Lysimachus, rhai a geisiasant gerrig, rhai bastynau, a rhai a daflasant ddyrneidiau o’r llwch oedd gerllaw at Lysimachus, a’r rhai oedd yn gosod arnynt:
42Trwy ba fodd y clwyfasant lawer ohonynt, ac y lladdasant rai, a rhai eraill a yrasant i ffoi; ond anrheithiwr yr eglwys a laddasant hwy gerllaw’r trysordy.
43Oblegid hyn fe achwynwyd yn erbyn Menelaus oherwydd yr achosion hyn.
44A phan ddaeth y brenin i Tyrus, fe ddanfonwyd tri wŷr oddi wrth y senedd, y rhai a achwynasant arno.
45Ond Menelaus, wedi colli’r maes, a addawodd lawer o arian i Ptolemeus fab Dorymenes, er gwneuthur y brenin yn fodlon.
46Am hynny Ptolemeus a aeth â’r brenin o’r neilltu i ryw gyntedd i ymoeri, ac a droes ei feddwl ef,
47Yn gymaint ag iddo ryddhau Menelaus, achos yr holl ddrwg, oddi wrth yr achwynion, a barnu y rhai truain hyn i angau, y rhai, pe dadleuasent eu mater gerbron y Scythiaid, hwy a gawsent eu gollwng yn ddieuog.
48Fel hyn yn fuan y cosbwyd hwy yn anghyfiawn, y rhai o’r blaen a ddadleuasant dros y ddinas, dros y bobl, a thros y llestri sanctaidd.
49Am hynny gwŷr Tyrus, yn gas ganddynt yr anwiredd hyn, a roddasant yn helaeth bob peth a berthynai i’w claddedigaeth hwy.
50Ond Menelaus, trwy awydd y rhai oedd mewn gallu, a wnaed yn fradychwr y dinaswyr, ac a arhoes yn ei swydd, gan chwanegu ei falais.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.