Eseciel 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A bu yn y chweched flwyddyn, yn y chweched mis, ar y pumed dydd o’r mis, a mi yn eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Jwda yn eistedd ger fy mron, syrthio o law yr ARGLWYDD DDUW arnaf yno.

2Yna yr edrychais, ac wele gyffelybrwydd fel gwelediad tân; o welediad ei lwynau ac isod, yn dân; ac o’i lwynau ac uchod, fel gwelediad disgleirdeb, megis lliw ambr.

3Ac efe a estynnodd lun llaw, ac a’m cymerodd erbyn cudyn o’m pen: a chododd yr ysbryd fi rhwng y ddaear a’r nefoedd, ac a’m dug i Jerwsalem mewn gweledigaethau DUW, hyd ddrws y porth nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, lle yr ydoedd eisteddfa delw yr eiddigedd, yr hon a wna eiddigedd.

4Ac wele yno ogoniant DUW Israel, fel y weledigaeth a welswn yn y gwastadedd.

5Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cyfod yn awr dy lygaid tua ffordd y gogledd. Felly y cyfodais fy llygaid tua ffordd y gogledd; ac wele, tua’r gogledd; wrth borth yr allor, ddelw yr eiddigedd hon yn y cyntedd.

6Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur, y ffieidd-dra mawr y mae tŷ Israel yn ei wneuthur yma, i’m gyrru ymhell oddi wrth fy nghysegr? ac eto dychwel, cei weled ffieidd-dra mwy.

7Ac efe a’m dug i ddrws y cyntedd; a phan edrychais, wele dwll yn y pared.

8Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cloddia yn y pared: a phan gloddiais yn y pared, wele ddrws.

9Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos i mewn, ac edrych y ffieidd-dra drygionus y maent hwy yn eu gwneuthur yma.

10Felly mi a euthum, ac a edrychais; ac wele bob llun ymlusgiad, ac anifail ffiaidd, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu portreio ar y pared o amgylch ogylch:

11A dengwr a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll ar eu cyfer hwynt, a Jaasaneia mab Saffan yn sefyll yn eu canol, pob un â’i thuser yn ei law; a chwmwl tew o fyctarth oedd yn dyrchafu.

12Ac efe a ddywedodd wrthyf, a weli di, fab dyn, yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur yn y tywyllwch, bob un o fewn ei ddelw-gelloedd? canys dywedant, Nid yw yr ARGLWYDD yn ein gweled; gadawodd yr ARGLWYDD y ddaear.

13Ac efe a ddywedodd wrthyf, Tro eto, cei weled ffieidd-dra mwy, y rhai y maent hwy yn eu gwneuthur.

14Ac efe a’m dug i ddrws porth tŷ yr ARGLWYDD, yr hwn oedd tua’r gogledd; ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am Tammus.

15Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? dychwel eto, cei weled ffieidd-dra mwy na hyn.

16Ac efe a’m dug i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD oddi fewn, ac wele wrth ddrws teml yr ARGLWYDD, rhwng y porth a’r allor, ynghylch pumwr ar hugain, a’u cefnau tuag at deml yr ARGLWYDD, a’u hwynebau tua’r dwyrain; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i’r haul tua’r dwyrain.

17Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? ai peth ysgafn gan dŷ Jwda wneuthur y ffieidd-dra a wnânt yma? canys llanwasant y tir â thrais, a gwrthdroesant i’m cyffroi i; ac wele hwy yn gosod blaguryn wrth eu trwyn.

18Minnau hefyd a wnaf mewn llid: nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf: ac er iddynt lefain yn fy nghlustiau â llef uchel, ni wrandawaf hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help