2 Brenhinoedd 24 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn ei ddyddiau ef y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny, a Joacim a fu was iddo ef dair blynedd: yna efe a drodd, ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef.

2A’r ARGLWYDD a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o’r Caldeaid, a thorfoedd o’r Syriaid, a thorfoedd o’r Moabiaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a’u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i’w dinistrio hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi.

3Yn ddiau trwy orchymyn yr ARGLWYDD y bu hyn yn erbyn Jwda, i’w bwrw allan o’i olwg ef, o achos pechodau Manasse, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe;

4A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe: canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion; a hynny ni fynnai yr ARGLWYDD ei faddau.

5A’r rhan arall o hanes Joacim, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

6A Joacim a hunodd gyda’i dadau; a Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

7Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o’i wlad: canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft, o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates.

8Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Nehusta, merch Elnathan o Jerwsalem.

9Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.

10Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny yn erbyn Jerwsalem, a gwarchaewyd ar y ddinas.

11A Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas, a’i weision ef a warchaeasant arni hi.

12A Joachin brenin Jwda a aeth allan at frenin Babilon, efe, a’i fam, a’i weision, a’i dywysogion, a’i ystafellyddion: a brenin Babilon a’i daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad.

13Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nheml yr ARGLWYDD, fel y llefarasai yr ARGLWYDD.

14Ac efe a ddug ymaith holl Jerwsalem, yr holl dywysogion hefyd, a’r holl gedyrn nerthol, sef deng mil o gaethion, a phob saer, a gof: ni adawyd ond pobl dlodion y wlad yno.

15Efe hefyd a ddug ymaith Joachin i Babilon, a mam y brenin, a gwragedd y brenin, a’i ystafellyddion, a chedyrn y wlad a ddug efe i gaethiwed o Jerwsalem i Babilon.

16A’r holl wŷr nerthol, sef saith mil; ac o seiri a gofaint, mil, y rhai oll oedd gryfion a rhyfelwyr: hwynt-hwy a ddug brenin Babilon yn gaeth i Babilon.

17A brenin Babilon a osododd Mataneia brawd ei dad ef yn frenin yn ei le ef, ac a drodd ei enw ef yn Sedeceia.

18Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.

19Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joachin.

20Canys trwy ddigofaint yr ARGLWYDD y bu hyn yn Jerwsalem ac yn Jwda, nes iddo eu taflu hwynt allan o’i olwg, fod i Sedeceia wrthryfela yn erbyn brenin Babilon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help