Ecclesiasticus (Sirach) 33 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 33

1Ni ddigwydd niwed i’r hwn a ofno’r Arglwydd; eithr mewn profedigaeth efe a’i gwared ef drachefn.

2Nid cas gan y doeth y gyfraith; ond yr hwn a ragrithio sy megis llong mewn tymestl.

3Dyn synhwyrol a ymddiried yn y gyfraith; a’r gyfraith sy ffyddlon megis oracl iddo yntau.

4Paratoa dy ymadrodd, ac felly y’th wrandewir: bydd sicr o’r peth, ac yna ateb.

5Calon y ffôl sydd fel olwyn men; a’i feddyliau sy fel echel dro.

6Megis ystalwyn yw cyfaill gwatwarus, yn gweryru dan bawb a’r a eisteddant arno.

7Paham y mae diwrnod yn rhagori ar ddiwrnod, gan fod cwbl oleuni pob diwrnod yn y flwyddyn yn dyfod oddi wrth yr haul?

8Trwy wybodaeth yr Arglwydd y gwahanwyd hwynt; ac efe a newidiodd yr amserau a’r gwyliau:

9Rhai ohonynt hwy a wnaeth efe yn ddyddiau uchel, ac a’u sancteiddiodd hwynt; ac efe a osododd rai ohonynt yn rhifedi y dyddiau.

10A phob dyn oll sydd o’r llawr; ac o’r ddaear y crewyd Adda.

11Yr Arglwydd trwy fawr wybodaeth a’u neilltuodd hwynt, ac a wnaeth eu ffyrdd hwy yn amryw.

12Rhai ohonynt hwy a fendithiodd ac a ddyrchafodd efe; a rhai ohonynt a sancteiddiodd, ac a nesaodd efe ato ei hun; rhai ohonynt hwy a felltithiodd ac a ddarostyngodd efe, ac a drodd allan o’u lleoedd.

13Megis y mae’r clai yn llaw y crochenydd, i’w lunio wrth ei ewyllys ef; felly y mae dyn yn llaw yr hwn a’i gwnaeth, i roddi iddo fel y gwelo efe yn dda.

14Y mae da wedi ei osod yn erbyn drwg, ac einioes yn erbyn angau: felly y mae y duwiol yn erbyn y pechadur, a’r pechadur yn erbyn y gŵr duwiol.

15Felly edrych ar holl weithredoedd y Goruchaf; bob yn ddau y maent hwy, y naill yn erbyn y llall.

16Minnau a ddeffroais yn ddiwethaf fel un yn lloffa ar ôl cynaeafwyr y grawnwin: trwy fendith yr Arglwydd y cynyddais, ac y llenwais fy ngwinwryf, fel cynaeafwr grawnwin.

17Ystyriwch nad i mi fy hunan y cymerais i boen, ond i bawb a geisiant athrawiaeth.

18O bendefigion y bobl, clywch; O lywodraethwyr y gynulleidfa, gwrandewch â’ch clustiau.

19Na ddod awdurdod arnat dy hun i fab nac i wraig, i frawd nac i gydymaith, tra fyddech byw: ac na ddod dy dda i arall, rhag bod yn edifar gennyt, a gorfod i ti ymbil amdano drachefn.

20Tra fyddych fyw, ac anadl ynot, na ddyro dy hun i fyny i neb:

21Canys gwell yw bod dy blant yn ceisio gennyt ti, nag i ti fod yn disgwyl wrth ddwylo dy blant.

22Cymer dy ragor yn dy holl weithredoedd; ac na anafa dy barch.

23Yn y dydd y gorffennych di ddyddiau dy einioes, ac yn amser dy ddiwedd, rhan dy etifeddiaeth.

24Rhodder porthiant, a gwialen, a phwn, i’r asyn; felly bara, a chosbedigaeth, a gwaith, i’r gweinidog.

25Os gosodi dy was ar waith, ti a gei orffwystra; ond os gollyngi ef yn segur, efe a gais ryddid.

26Iau a chebystr a ostwng y war; felly y mae cosbedigaeth a phoenau i weinidog drwg.

27Gyr ef i’w waith, fel na byddo efe segur: oblegid llawer o ddrygioni a ddysgodd seguryd.

28Gosod ef ar waith, fel y gweddai iddo: oni bydd efe ufudd, dod heyrn trymach arno:

29Ond na ddod ormod ar un cnawd; ac na wna ddim heb bwyll.

30Os bydd gennyt weinidog, bydded efe i ti fel dy enaid dy hun; oblegid mewn gwaed y cefaist ti ef.

31Os bydd gennyt weinidog, gwna ohono ef fel o frawd: canys fe fydd mor rhaid i ti wrtho ef ag wrthyt dy hun: os cosbi di ef ar gam, a chodi ohono yntau, a ffoi ymaith, pa ffordd y ceisi di ef?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help