1A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod.
3A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia’r arch â’r wahanlen.
4Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef.
5Gosod hefyd allor aur yr arogl-darth gerbron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl.
6Dod hefyd allor y poethoffrwm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod.
7Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi ddwfr.
8A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa.
9A chymer olew yr eneiniad, ac eneinia’r tabernacl, a’r hyn oll sydd ynddo, a chysegra ef a’i holl lestri; a sanctaidd fydd.
10Eneinia hefyd allor y poethoffrwm, a’i holl lestri; a’r allor a gysegri: a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf.
11Eneinia y noe a’i throed, a sancteiddia hi.
12A dwg Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.
13A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac eneinia ef, a sancteiddia ef, i offeiriadu i mi.
14Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau.
15Ac eneinia hwynt, megis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.
16Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; felly y gwnaeth efe.
17Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y codwyd y tabernacl.
18A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau;
19Ac a ledodd y babell-len ar y tabernacl, ac a osododd do’r babell-len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
20Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch.
21Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
22Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, o’r tu allan i’r wahanlen.
23Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
24Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du’r deau.
25Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
26Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen.
27Ac a arogldarthodd arni arogl-darth peraidd; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
28Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl.
29Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd-offrwm; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
30Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.
31A Moses, ac Aaron, a’i feibion, a olchasant yno eu dwylo a’u traed.
32Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
33Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.
34Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tabernacl.
35Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi’r tabernacl.
36A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynnai meibion Israel i’w holl deithiau.
37Ac oni chyfodai’r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai.
38Canys cwmwl yr ARGLWYDD ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.