1Ac yr oedd Mardocheus yn gorffwys yn y llys, gyda Gabatha a Tharra, dau o stafellyddion y brenin, y rhai oedd yn cadw y llys:
2Efe a glybu hefyd eu hamcanion hwynt, ac a chwiliodd allan eu bwriad hwynt, ac a gafodd wybod eu bod hwy yn barod i roi llaw ar y brenin Artacsercses: ac efe a ddangosodd i’r brenin amdanynt.
3A’r brenin a holodd ei ddau stafellydd; a hwy a gyffesasant, ac a grogwyd.
4Yna yr ysgrifennodd y brenin y pethau hyn mewn coffadwriaeth: Mardocheus hefyd a sgrifennodd yr un pethau.
5A’r brenin a orchmynnodd i Mardocheus wasanaethu yn y llys, ac a roddes iddo ef roddion am hyn.
6Eithr Aman mab Amadatheus yr Agagiad, yr hwn oedd ogoneddus yng ngolwg y brenin, a geisiodd ddrygu Mardocheus a’i bobl o achos dau ystafellydd y brenin.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
