Eseciel 33 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2Llefara, fab dyn, wrth feibion dy bobl, a dywed wrthynt, Pan ddygwyf gleddyf ar wlad, a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o’i chyrrau, a’i roddi yn wyliedydd iddynt:

3Os gwêl efe gleddyf yn dyfod ar y wlad, ac utganu mewn utgorn, a rhybuddio y bobl;

4Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o’r cleddyf a’i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun.

5Efe a glybu lais yr utgorn, ac ni chymerodd rybudd; ei waed fydd arno: ond yr hwn a gymero rybudd, a wared ei enaid.

6Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni utgana mewn utgorn, a’r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o’r cleddyf a chymryd un ohonynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd.

7Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y’th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o’m genau, ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthyf fi.

8Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Ti annuwiol, gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o’i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef.

9Ond os rhybuddi di yr annuwiol o’i ffordd, i ddychwelyd ohoni; os efe ni ddychwel o’i ffordd, efe fydd farw yn ei anwiredd, a thithau a waredaist dy enaid.

10Llefara hefyd wrth dŷ Israel, ti fab dyn, Fel hyn gan ddywedyd y dywedwch; Os yw ein hanwireddau a’n pechodau arnom, a ninnau yn dihoeni ynddynt, pa fodd y byddem ni byw?

11Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o’r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, tŷ Israel, paham y byddwch feirw?

12Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o’i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho.

13Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, Gan fyw y caiff fyw; os efe a hydera ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofir; ond am ei anwiredd a wnaeth, amdano y bydd efe marw.

14A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder;

15Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw:

16Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.

17A meibion dy bobl a ddywedant, Nid yw union ffordd yr ARGLWYDD: eithr eu ffordd hwynt nid yw union.

18Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, efe a fydd marw ynddynt.

19A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei annuwioldeb, a gwneuthur barn a chyfiawnder, yn y rhai hynny y bydd efe byw.

20Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr ARGLWYDD. Barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun.

21Ac yn y degfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn o’n caethgludiad ni, ar y pumed dydd o’r mis, y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi, gan ddywedyd, Trawyd y ddinas.

22A llaw yr ARGLWYDD a fuasai arnaf yn yr hwyr, cyn dyfod y dihangydd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod ataf y bore; ie, ymagorodd fy safn, ac ni bûm fud mwyach.

23Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

24Ha fab dyn, preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru, gan ddywedyd, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.

25Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr ydych yn bwyta ynghyd â’r gwaed, ac yn dyrchafu eich llygaid at eich gau dduwiau, ac yn tywallt gwaed; ac a feddiennwch chwi y tir?

26Sefyll yr ydych ar eich cleddyf, gwnaethoch ffieidd-dra, halogasoch hefyd bob un wraig ei gymydog; ac a feddiennwch chwi y tir?

27Fel hyn y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Fel mai byw fi, trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch; a’r hwn sydd ar wyneb y maes, i’r bwystfil y rhoddaf ef i’w fwyta; a’r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac mewn ogofeydd, a fyddant feirw o’r haint.

28Canys gwnaf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith; a balchder ei nerth ef a baid, ac anrheithir mynyddoedd Israel, heb gyniweirydd ynddynt.

29A chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan wnelwyf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith, am eu holl ffieidd-dra a wnaethant.

30Tithau fab dyn, meibion dy bobl sydd yn siarad i’th erbyn wrth y parwydydd, ac o fewn drysau y tai, ac yn dywedyd y naill wrth y llall, pob un wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Deuwch, atolwg, a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddi wrth yr ARGLWYDD.

31Deuant hefyd atat fel y daw y bobl, ac eisteddant o’th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond nis gwnânt hwy: canys â’u geneuau y dangosant gariad, a’u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd-dod.

32Wele di hefyd iddynt fel cân cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda: canys gwrandawant dy eiriau, ond nis gwnânt hwynt.

33A phan ddelo hyn, (wele ef yn dyfod,) yna y cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help