Jeremeia 30 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

2Fel hyn y llefarodd yr ARGLWYDD, DUW Israel, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr.

3Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr ARGLWYDD, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr ARGLWYDD: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau, a hwy a’i meddiannant hi.

4Dyma hefyd y geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel, ac am Jwda:

5Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef dychryn a glywsom ni, ofn, ac nid heddwch.

6Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a esgora gwryw; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr â’i ddwylo ar ei lwynau, fel gwraig wrth esgor, ac y trowyd yr holl wynebau yn lesni?

7Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo: amser blinder yw hwn i Jacob; ond efe a waredir ohono.

8Canys y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y torraf fi ei iau ef oddi ar dy war di, a mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach.

9Eithr hwy a wasanaethant yr ARGLWYDD eu DUW, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt.

10Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr ARGLWYDD; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a’th achubaf di o bell, a’th had o dir eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a gaiff lonydd, ac ni bydd a’i dychryno.

11Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr ARGLWYDD, i’th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn, ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd.

12Oblegid fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll.

13Nid oes a ddadleuo dy gŵyn, fel y’th iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti.

14Dy holl gariadau a’th anghofiasant: ni cheisiant mohonot ti; canys mi a’th drewais â dyrnod gelyn, sef â chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant.

15Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o’th bechodau y gwneuthum hyn i ti.

16Am hynny y rhai oll a’th ysant a ysir; a chwbl o’th holl elynion a ânt i gaethiwed; a’th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith, a’th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail.

17Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a’th iachâf di o’th friwiau, medd yr ARGLWYDD; oblegid hwy a’th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio.

18Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer.

19A moliant a â allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a’u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anaml; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael.

20Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf â’u holl orthrymwyr hwynt.

21A’u pendefigion fydd ohonynt eu hun, a’u llywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesáu, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi? medd yr ARGLWYDD.

22A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau.

23Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys.

24Ni ddychwel digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help