2 Cronicl 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Solomon a ddechreuodd adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr ARGLWYDD i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

2Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o’r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad.

3A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ DDUW. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a’r lled yn ugain cufydd.

4A’r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur.

5A’r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef.

6Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a’r aur oedd aur Parfaim.

7Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a’i barwydydd, a’i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd.

8Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a’i led yn ugain cufydd: ac efe a’i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent.

9Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.

10Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur.

11Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall.

12Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a’r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall.

13Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a’u hwynebau tuag i mewn.

14Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny.

15Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a’r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd.

16Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a’u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a’u rhoddodd ar y cadwynau.

17A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o’r tu deau, ac un o’r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help