1Ac yn ôl y saith niwrnod, y gwelais freuddwyd liw nos;
2Ac wele, cododd gwynt o’r môr, ac a gynhyrfodd ei holl donnau ef.
3Ac edrychais, ac wele, y gŵr hwnnw a aeth yn gryf gyda miloedd y nef: a phan drodd efe ei wyneb i edrych, yr holl bethau a’r a welid dano ef a grynodd.
4A phan aeth y lleferydd o’i enau ef, pawb a’r a’i clywodd a losgasant, fel y palla’r ddaear pan gyffyrddo’r tân â hi.
5Wedi hyn yr edrychais, ac wele, ymgasglodd ynghyd lu o bobl allan o rifedi, o bedwar ban byd, i orchfygu’r gŵr a ddaethai allan o’r môr.
6Ac edrychais, ac wele, efe a gerfiodd iddo ei hun fynydd mawr, ac a ehedodd arno.
7Ond mi a geisiais weled y wlad, neu’r lle, o’r hwn y tynasai efe’r mynydd, ac ni allwn.
8Ac yn ôl hynny yr edrychais, ac wele, yr holl rai a ymgynullasant i’w orchfygu ef, oedd yn ofni yn fawr, ac er hynny hwy a lyfasent ymladd.
9Ac wele, pan welodd efe greulondeb a nerth y bobl a ddaethai yn ei erbyn ef, ni wnaeth efe na chodi llaw, na dal cleddyf nac arf rhyfel:
10Ond yn unig mi a’i gwelwn ef yn chwythu allan o’i enau megis awel o dân, ac o’i wefusau anadl fflamllyd, ac o’i dafod efe a daflodd wreichion a thymhestloedd.
11Ac yr oeddynt i gyd ynghymysg, yr awel dân, yr anadl fflamllyd, a’r dymestl fawr, ac a ddisgynasant gyda rhuthr ar y bobl oedd yn barod i ymladd, ac a’u llosgasant hwy i gyd, fel yn ddisymwth na welid o’r llu aneirif ddim ond llwch a sawr mwg: pan welais hyn, mi a ofnais.
12Yn ôl hynny y gwelais yr un gŵr yn dyfod i lawr o’r mynydd, ac yn galw ato dyrfa lonydd arall.
13A llawer a bobl a ddaethant ato ef; rhai oedd yn llawen, rhai yn drist, rhai yn rhwym, ac eraill a ddygasant o’r pethau o offrymasid: yna yr oeddwn glaf gan ofn mawr; a deffroais, a dywedais,
14Dangosaist i’th was y rhyfeddodau hyn o’r dechreuad, a chyfrifaist fi yn deilwng fel y derbynnit fy ngweddi:
15Dangos i mi eto ddehongliad y breuddwyd hwn:
16Canys hyn yr ydwyf yn ei ddeall, gwae’r neb a adawer y pryd hynny! a mwy gwae i’r rhai nis gadawer yn ôl!
17Canys y rhai ni adawyd oeddynt mewn tristwch.
18Yn awr yr ydwyf yn deall y pethau a roddwyd i gadw erbyn y dyddiau diwethaf, y rhai a ddigwydd iddynt, ac i’r sawl a adawer yn ôl.
19Am hynny y daethant i berygl mawr, ac i angen mawr, fel y dengys y breuddwydion hyn.
20Eto haws i’r neb a fyddo mewn perygl ddyfod i’r pethau hyn nag iddo fyned allan o’r byd hwn fel cwmwl, a bod heb weled y pethau a ddigwyddant yn y dyddiau diwethaf. Yna efe a’m hatebodd, gan ddywedyd,
21Dehongliad y weledigaeth a ddangosaf i ti, ac agoraf i ti y peth a ddymunaist.
22Lle y soniaist am y rhai sy wedi eu gadael yn ôl, hyn yw’r dehongliad:
23Yr hwn a ddygo berygl y pryd hwnnw, a’i cadwodd ei hun: a’r sawl a syrthiodd mewn perygl, yw y rhai sy â gweithredoedd a ffydd ganddynt i’r Hollalluog.
24Am hynny gwybydd hyn, fod y rhai a adawer yn ôl yn ddedwyddach na’r rhai a fu feirw.
25Hyn yw deall y weledigaeth: Lle y gwelaist ŵr yn dyfod i fyny o ganol y môr,
26Hwnnw yw’r hwn a gadwodd y Duw goruchaf yn hir, yr hwn trwyddo ei hun a wareda ei greaduriaid: ac efe a lywodraetha’r rhai a adawer yn ôl.
27A lle y gwelaist yn dyfod allan o’i safn ef fel chwa o wynt, a thân, a thymestl,
28Ac na chododd efe na chleddyf nac arf rhyfel, ond i’w ruthr ef ddifetha’r holl liaws a ddaeth i’w orchfygu ef; hyn yw’r dehongliad:
29Wele’r dyddiau yn dyfod, pan ddechreuo’r Goruchaf waredu y rhai sy ar y ddaear.
30Ac er syndod meddwl y daw efe ar y rhai a breswyliant y ddaear.
31A’r naill a ymladd â’r llall, a’r naill ddinas yn erbyn y llall, y naill le yn erbyn y llall, y naill bobl yn erbyn y llall, a’r naill deyrnas yn erbyn y llall.
32A daw’r amser pan ddelo hyn i ben, a dyfod yr arwyddion a ddangosais i ti o’r blaen; yna yr eglurir fy Mab, yr hwn a welaist fel gŵr yn dringo i fyny.
33A phan glywo’r holl bobl ei leferydd ef, pawb yn eu gwlad eu hun a beidiant â rhyfela yn erbyn ei gilydd.
34A lliaws aneirif a gesglir ynghyd, fel y gwelaist rai yn ewyllysgar i ddyfod, ac i’w orchfygu ef trwy ymladd.
35Ond efe a saif ar ben mynydd Seion;
36A Seion a ddaw, ac a ddangosir i bawb, wedi ei thrwsio, a’i hadeiladu, fel y gwelaist y bryn wedi ei gerfio heb ddwylo.
37A hwn fy Mab i a gerydda amcanion drygionus y cenhedloedd hynny, y rhai a syrthiasant i’r dymestl, am eu buchedd ddrygionus;
38Ac a esyd o’u blaen hwynt eu drwg feddyliau, a’r dialeddau trwy’r rhai y dechreuant gael eu poeni, y rhai ydynt fel fflam: ac heb boen y difetha efe hwynt trwy’r gyfraith a gyffelybir i dân.
39A lle y gwelaist ef yn casglu pobl lonydd eraill ato;
40Y rhai hynny yw’r deg llwyth, y rhai a ddygwyd ymaith yn garcharorion allan o’u gwlad eu hun, yn amser Osea y brenin, yr hwn a ddaliodd Salmanasar brenin Asyria yn garcharor, ac a’u dug hwynt dros yr afon, ac felly y daethant i wlad arall.
41Ond hwy a gymerasant y cyngor hyn yn eu plith eu hunain, i adael lliaws y cenhedloedd, a myned ymaith i wlad bellach, lle ni thrigasai neb erioed;
42Fel y gallent gadw yno eu cyfraith, yr hon nis cadwasent erioed yn eu gwlad eu hunain.
43Ac felly yr aethant trwy lwybrau cyfyng afon Ewffrates.
44Canys y Goruchaf a ddangosodd yna iddynt arwyddion, ac a ataliodd yr afon, nes iddynt fyned trwodd.
45Canys yr ydoedd ffordd fawr trwy’r wlad, o daith blwyddyn a hanner: a’r wlad honno a elwir Arsareth.
46Yna yr arosasant yno hyd yr amser diwethaf: ac yn awr, pan ddechreuant ddyfod drachefn,
47Y Goruchaf a etyl drachefn aberoedd y ffrwd, fel y gallont fyned drwodd: am hynny y gwelaist y lliaws mewn heddwch.
48Ond y rhai a adawyd yn ôl o’th bobl, yw y rhai a gafwyd o fewn fy nherfynau i.
49Yn awr pan ddifetho efe liaws y cenhedloedd a ymgasglodd ynghyd, efe a amddiffyn y bobl sydd yn ôl;
50Ac yna y dengys efe iddynt ryfeddodau mawrion.
51Yna y dywedais innau, O Arglwydd lywydd, dangos i mi hyn: paham y gwelais y gŵr yn dyfod i fyny o ganol y môr?
52Ac efe a ddywedodd wrthyf, Fel nas gelli chwilio na gwybod y pethau sydd yn nyfnder y môr: felly nis gall neb ar y ddaear weled fy Mab i na’r rhai sy gydag ef, ond liw dydd.
53Hyn yw dehongliad y breuddwyd a welaist, a thrwy’r hwn y cefaist ti yn unig yma oleuni:
54Canys gwrthodaist dy ffordd dy bun, a buost ddyfal i geisio fy nghyfraith i.
55Dy fuchedd a drefnaist mewn doethineb, a gelwaist ddeall yn fam i ti.
56Ac am hynny y dangosais i ti drysorau y Goruchaf: ymhen y tridiau eto y llefaraf bethau eraill wrthyt, ie, pethau mawrion a rhyfedd a ddangosaf i ti.
57Yna yr euthum allan i’r maes, gan roddi gogoniant a diolch mawr i’r Goruchaf Dduw am y rhyfeddodau a wnaeth efe mewn amser,
58Ac am ei fod ef yn llywodraethu’r amser, a’r pethau a ddigwydd yn eu hamserau. Ac yno yr eisteddais dridiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.