Y Salmau 75 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 75I’r Pencerdd, Al-teschith, Salm neu Gân Asaff.

1Clodforwn dydi, O DDUW, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.

2Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn.

3Ymddatododd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.

4Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:

5Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.

6Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth.

7Ond DUW sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.

8Oblegid y mae ffiol yn llaw yr ARGLWYDD, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.

9Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i DDUW Jacob.

10Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help