1A Phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i’w feddiannu.
2Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri,
3O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:
4O’r deau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid:
5A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal-gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.
6Holl breswylwyr y mynydd-dir o Libanus hyd Misreffoth-maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti.
7Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse.
8Gyda’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt;
9O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:
10A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;
11Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha;
12Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a’u trawsai hwynt, ac a’u gyrasai ymaith.
13Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn.
14Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd ARGLWYDD DDUW Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.
15A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd:
16A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba;
17Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-baal, a Beth-baalmeon;
18Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath;
19Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sarethsahar, ym mynydd-dir y glyn;
20Beth-peor hefyd, ac Asdoth-pisga, a Beth-jesimoth,
21A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.
22Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt.
23A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.
24Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;
25A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba;
26Ac o Hesbon hyd Ramath-mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;
27Ac yn y dyffryn, Beth-aram, a Beth-nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain.
28Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.
29Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd:
30A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas;
31A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd.
32Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain.
33Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: ARGLWYDD DDUW Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.