Eseciel 40 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn y bumed flwyddyn ar hugain o’n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y degfed dydd o’r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi taro y ddinas, o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac a’m dug yno.

2Yng ngweledigaethau DUW y dug efe fi i dir Israel, ac a’m gosododd ar fynydd uchel iawn, ac arno yr oedd megis adail dinas o du y deau.

3Ac efe a’m dug yno: ac wele ŵr a’i welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn llin, a chorsen fesur: ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth.

4A dywedodd y gŵr wrthyf, Ha fab dyn, gwêl â’th lygaid, gwrando hefyd â’th glustiau, a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i ti: oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y’th ddygwyd yma: mynega i dŷ Israel yr hyn oll a weli.

5Ac wele fur o’r tu allan i’r tŷ o amgylch ogylch: a chorsen fesur yn llaw y gŵr, yn chwe chufydd o hyd, wrth gufydd a dyrnfedd: ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen, a’r uchder yn un gorsen.

6Ac efe a ddaeth i’r porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led, a’r rhiniog arall yn un gorsen o led.

7A phob ystafell oedd un gorsen o hyd, ac un gorsen o led: a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd: a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o’r tu mewn, oedd un gorsen.

8Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn, yn un gorsen.

9Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd, a’i byst yn ddau gufydd, a chyntedd y porth oedd o’r tu mewn.

10Ac ystafelloedd y porth tua’r dwyrain oedd dair o’r tu yma, a thair o’r tu acw; un fesur oeddynt ill tair: ac un mesur oedd i’r pyst o’r tu yma ac o’r tu acw.

11Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd, a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg.

12A’r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o’r naill du, a’r terfyn o’r tu arall yn un cufydd; a’r ystafelloedd oedd chwe chufydd o’r tu yma, a chwe chufydd o’r tu acw.

13Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall, yn bum cufydd ar hugain o led, drws ar gyfer drws.

14Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd, a hynny hyd bost y cyntedd, o amgylch ogylch y porth.

15Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn, hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn, yr oedd deg cufydd a deugain.

16A ffenestri cyfyng oedd i’r ystafelloedd, ac i’w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i’r bwâu meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post.

17Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur i’r cyntedd o amgylch ogylch; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant.

18A’r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd.

19Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan tua’r dwyrain a’r gogledd.

20A’r porth yr hwn oedd â’i wyneb tua’r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe, ei hyd a’i led.

21A’i ystafelloedd ef oedd dair o’r tu yma, a thair o’r tu acw; ac yr ydoedd ei byst, a’i fwâu meini, wrth fesur y porth cyntaf, yn ddeg cufydd a deugain eu hyd, a’r lled yn bum cufydd ar hugain.

22Eu ffenestri hefyd, a’u bwâu meini, a’u palmwydd, oedd wrth fesur y porth oedd â’i wyneb tua’r dwyrain; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo; a’i fwâu meini oedd o’u blaen hwynt.

23A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua’r gogledd, a thua’r dwyrain: ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd.

24Wedi hynny efe a’m dug i tua’r deau, ac wele borth tua’r deau, ac efe a fesurodd ei byst a’i fwâu meini wrth y mesurau hyn.

25Ffenestri hefyd oedd iddo ac i’w fwâu meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddeg cufydd a deugain o hyd, ac yn bum cufydd ar hugain o led.

26Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef, a’i fwâu meini o’u blaen hwynt: yr oedd hefyd iddo balmwydd, un o’r tu yma, ac un o’r tu acw, ar ei byst ef.

27Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua’r deau: ac efe a fesurodd o borth i borth, tua’r deau, gan cufydd.

28Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn;

29A’i ystafelloedd, a’i byst, a’i fwâu meini, wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled.

30A’r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led.

31A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.

32Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn tua’r dwyrain: ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn.

33A’i ystafelloedd, a’i byst, a’i fwâu meini, oedd wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo ef, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a’r lled yn bum cufydd ar hugain.

34A’i fwâu meini oedd tua’r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst o’r tu yma, ac o’r tu acw; a’i esgynfa oedd wyth o risiau.

35Ac efe a’m dug i borth y gogledd, ac a’i mesurodd wrth y mesurau hyn:

36Ei ystafelloedd, ei byst, a’i fwâu meini, a’r ffenestri iddo o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a’r lled oedd bum cufydd ar hugain.

37A’i byst oedd tua’r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd ar ei byst o’r tu yma, ac o’r tu acw; a’i esgynfa oedd wyth o risiau.

38A’r celloedd a’u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.

39Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o’r tu yma, a dau fwrdd o’r tu acw, i ladd y poethoffrwm, a’r pech-aberth, a’r aberth dros gamwedd, arnynt.

40Ac ar yr ystlys oddi allan, lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth.

41Pedwar bwrdd oedd o’r tu yma, a phedwar bwrdd o’r tu acw, ar ystlys y porth; wyth bwrdd, ar y rhai y lladdent eu haberthau.

42A’r pedwar bwrdd i’r poethoffrwm oedd o gerrig nadd, yn un cufydd a hanner o hyd, ac yn un cufydd a hanner o led, ac yn un cufydd o uchder: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a’r aberth â hwynt.

43Hefyd yr oedd bachau, o un ddyrnfedd, wedi eu paratoi o fewn, o amgylch ogylch: a chig yr offrwm oedd ar y byrddau.

44Ac o’r tu allan i’r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a’u hwynebau oedd tua’r deau: un oedd ar ystlys porth y dwyrain, â’i wyneb tua’r gogledd.

45Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ystafell hon, yr hon sydd â’i hwyneb tua’r deau, sydd i’r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth y tŷ.

46A’r ystafell yr hon sydd â’i hwyneb tua’r gogledd, sydd i’r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth yr allor: y rhai hyn yw meibion Sadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi, yn nesáu at yr ARGLWYDD i weini iddo.

47Felly efe a fesurodd y cyntedd, yn gan cufydd o hyd, ac yn gan cufydd o led, yn bedeirongl; a’r allor oedd o flaen y tŷ.

48Ac efe a’m dug i borth y tŷ, ac a fesurodd bob post i’r porth, yn bum cufydd o’r naill du, ac yn bum cufydd o’r tu arall: a lled y porth oedd dri chufydd o’r naill du, a thri chufydd o’r tu arall.

49Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd, ac un cufydd ar ddeg o led: ac efe a’m dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst, un o’r naill du, ac un o’r tu arall.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help