Eseia 25 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1O ARGLWYDD, fy NUW ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd.

2Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth.

3Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadwy a’th arswyda:

4Canys buost nerth i’r tlawd, a chadernid i’r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur.

5Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy.

6Ac ARGLWYDD y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig.

7Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd.

8Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd.

9A’r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein DUW ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a’n ceidw: dyma yr ARGLWYDD; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef.

10Canys llaw yr ARGLWYDD a orffwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tomen.

11Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo.

12Felly y gogwydda, y gostwng, ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch, gadernid uchelder dy gaerau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help