1 Brenhinoedd 16 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan ddywedyd,

2Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch, a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio ohonot tithau yn ffordd Jeroboam, a pheri i’m pobl Israel bechu, gan fy nigio â’u pechodau;

3Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa, a hiliogaeth ei dŷ ef: a mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat.

4Y cŵn a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo Baasa yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo ef yn y maes.

5A’r rhan arall o hanes Baasa, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid ef, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

6A Baasa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Tirsa; ac Ela ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

7Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr ARGLWYDD yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei dŷ ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr ARGLWYDD, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef.

8Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Tirsa, ddwy flynedd.

9A Simri ei was ef, tywysog ar hanner y cerbydau, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef, ac efe yn yfed yn feddw, yn Tirsa, yn nhŷ Arsa, yr hwn oedd benteulu yn Tirsa.

10A Simri a aeth ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

11A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrngadair, efe a laddodd holl dŷ Baasa: ni adawodd efe iddo ef un gwryw, na’i geraint, na’i gyfeillion.

12Felly Simri a ddinistriodd holl dŷ Baasa, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd.

13Oherwydd holl bechodau Baasa, a phechodau Ela ei fab ef, trwy y rhai y pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio ARGLWYDD DDUW Israel â’u gwagedd.

14A’r rhan arall o hanes Ela, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

15Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith niwrnod yn Tirsa: a’r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo y Philistiaid.

16A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriadodd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll.

17Ac Omri a aeth i fyny, a holl Israel gydag ef, o Gibbethon; a hwy a warchaeasant ar Tirsa.

18A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill, efe a aeth i balas tŷ y brenin, ac a losgodd dŷ y brenin am ei ben â thân, ac a fu farw;

19Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, gan rodio yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod a wnaeth efe i beri i Israel bechu.

20A’r rhan arall o hanes Simri, a’i gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

21Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o’r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath, i’w osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri.

22A’r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd.

23Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd: yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd.

24Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian; ac a adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ôl enw Semer, arglwydd y mynydd, Samaria.

25Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr ARGLWYDD, ac a wnaeth yn waeth na’r holl rai a fuasai o’i flaen ef.

26Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef, trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio ARGLWYDD DDUW Israel â’u gwagedd hwynt.

27A’r rhan arall o hanes Omri, yr hyn a wnaeth efe, a’i rymuster a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

28Ac Omri a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

29Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain.

30Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD y tu hwnt i bawb o’i flaen ef.

31Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo.

32Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria.

33Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD DDUW Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef.

34Yn ei ddyddiau ef Hïel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf-anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help