1Yna y breuddwydiais, ac wele, fe ddaeth i fyny eryr o’r môr, i’r hwn yr ydoedd deuddeng asgell adeiniog, a thri phen.
2Ac mi a edrychais, ac wele, efe a ledodd ei esgyll dros yr holl ddaear; a holl wyntoedd yr awyr a chwythodd arno ef, a hwy a ymgasglasant ynghyd.
3A mi a edrychais, ac allan o’i adenydd ef y tyfodd adenydd eraill yn y gwrthwyneb, a’r rhai hynny oedd adenydd bychain a mân.
4Ond ei bennau oedd yn gorffwys; a’r pen oedd yn y canol ydoedd fwy na’r lleill, er hynny efe a orffwysodd gyda hwynt.
5Heblaw hynny, mi a edrychais, ac wele yr eryr yn ehedeg â’i adenydd, ac yn teyrnasu ar y ddaear, ac ar y rhai oedd yn trigo ynddi.
6A gwelais bob peth dan y nef yn ddarostyngedig iddo ef, ac nid oedd neb yn dywedyd yn ei erbyn ef, nac oedd un creadur ar y ddaear.
7A gwelais, ac wele yr eryr yn sefyll ar ei ewinedd, ac yn llefaru wrth ei adenydd, gan ddywedyd,
8Na wyliwch bawb ar unwaith; cysged pob un yn ei le ei hun, a gwyliwch wrth gylch:
9A chadwer y pennau hyd yn ddiwethaf,
10A mi a edrychais, ac wele, nid aethai’r lleferydd allan o’i bennau ef, ond o ganol ei gorff ef.
11A rhifais ei adenydd gwrthwyneb ef, ac wele, yr oedd wyth ohonynt.
12Ac edrychais, ac wele, o’r tu deau y cododd un adain, a honno a deyrnasodd dros yr holl ddaear.
13Ac felly y digwyddodd, pan deyrnasodd, y daeth diwedd iddi, a’i lle nis gwelwyd mwy: felly’r ail a safodd, ac a deyrnasodd, ac a gafodd amser hir.
14A digwyddodd, pan deyrnasodd, y daeth diwedd iddi, fel i’r gyntaf, fel nas gwelwyd mwy.
15Yna y daeth lleferydd ati, gan ddywedyd,
16Gwrando, tydi yr hon a reolaist ar y ddaear cyhyd o amser; hyn a ddywedaf wrthyt ti, cyn dechrau ohonot fod heb ymddangos mwy;
17Ni chaiff neb yn dy ôl di ddyfod i’th amser di, nac i’w hanner.
18Yna y cododd y drydedd, ac a deyrnasodd fel y lleill o’r blaen, ac nid ymddangosodd hithau mwy.
19Ac felly y gwnaeth y lleill, y naill yn ôl ei gilydd, fel y teyrnasodd pob un, ac nid ymddangosasant mwy.
20Yna’r edrychais, ac wele, mewn ennyd o amser, yr adenydd oedd yn canlyn a safasant o’r tu deau, fel y gallent hwy reoli hefyd: a rhai ohonynt a lywodraethasant; ond o fewn ychydig o amser nid ymddangosasant mwy:
21Canys rhai ohonynt a osodwyd i fyny, ond ni reolasant.
22Ac wedi hynny mi a edrychais, ac wele, y deuddeng adain nid ymddangosasant mwy, na’r ddwy adain fechan.
23Ac nid oedd mwy ar gorff yr eryr ond tri phen o oedd yn gorffwys, a chwech o esgyll bychain.
24A gwelais hefyd ddwy adain wedi ymddidoli oddi wrth y chwech, ac yn aros dan y pen oedd o’r tu deau; canys pedair a arosasent yn eu lle.
25A mi a edrychais, ac wele, yr adenydd y rhai oeddynt dan yr asgell a amcanasant eu gosod eu hun i fyny, a rheoli.
26A mi a edrychais, ac wele, gosodwyd un i fyny, ond ar fyrder nid ymddangosodd mwy.
27A’r ail a aeth ymaith yn gynt na’r gyntaf.
28A mi a edrychais, ac wele, y ddwy oedd yn aros a amcanasant reoli hefyd.
29A thra’r oeddynt yn meddwl hynny, wele, deffrôdd un o’r pennau oedd yn cysgu, sef yr hwn oedd yn y canol; canys mwy oedd hwnnw nag yr un o’r ddau eraill.
30Ac yna y gwelais fod y ddau ben wedi myned yn un ag ef.
31Ac wele, y pen hwnnw a drodd at y pennau oedd gydag ef, ac a fwytaodd y ddwy adain dan yr asgell oedd ar fedr teyrnasu.
32Ond y pen hwn a ddychrynodd yr holl ddaear, ac a lywodraethodd ar bawb a’r oedd yn trigo ar y ddaear trwy orthrymder mawr: ac efe oedd yn rheoli’r byd yn fwy na’r holl esgyll a fuasai.
33Ac wedi hynny mi a edrychais, ac wele, y pen oedd yn y canol, yn ddisymwth nid ymddangosodd mwy, yr un ffunud â’r esgyll.
34Ond yr oedd eto y ddau ben, y rhai oedd yr un ffunud yn rheoli ar y ddaear ac ar y rhai oedd yn trigo arni.
35Edrychais hefyd, ac wele, y pen oedd o’r tu deau a lyncodd y pen oedd o’r tu aswy.
36Yna y clywais lef yn dywedyd wrthyf, Edrych o’th flaen, a dal sylw ar y peth yr wyt yn ei weled.
37Yna mi a edrychais, ac wele megis llew rhuadwy wedi ei ymlid allan o’r coed; a gwelais ef yn anfon lleferydd dyn allan at yr eryr, gan ddywedyd,
38Gwrando, mi a ymddiddanaf â thi; a’r Goruchaf a ddywed wrthyt;
39Onid tydi yw’r hwn sydd yn aros o’r pedwar anifail, y rhai a wneuthum i deyrnasu ar fy myd, fel y delai diwedd eu hamseroedd trwyddynt hwy?
40A’r pedwerydd a ddaeth, ac a orchfygodd yr holl anifeiliaid a aethai o’r blaen, ac a gafodd allu ar y byd gydag ofn mawr, dros holl amgylchoedd y ddaear gyda gorthrymder annuwiol lawer; a chyhyd â hynny o amser y preswyliodd efe ar y ddaear yn dwyllodrus.
41Canys ni fernaist ti y ddaear mewn gwirionedd:
42Canys blinaist y gostyngedig, briwaist yr heddychol, ceraist gelwyddwyr, difethaist drigfaon y rhai oedd yn dwyn ffrwyth, bwriaist i lawr fagwyr y rhai ni wnaethant niwed i ti.
43Am hynny y daeth dy drawsineb i fyny at y Goruchaf, a’th falchder at y Galluog.
44Y Goruchaf hefyd a edrychodd ar yr amseroedd beilchion, ac wele, hwy a ddarfuant, a’i ffieidd-dra ef a gyflawnwyd.
45Ac am hynny, nac ymddangos mwy, tydi eryr, na’th esgyll ofnadwy, na’th adenydd annuwiol, na’th bennau maleisus, na’th ewinedd ysgeler, na’th holl gorff ofer:
46Fel y gallo’r holl ddaear ddadflino a dychwelyd, wedi dianc oddi wrth dy drawster di, ac fel y gallo obeithio barn a thrugaredd gan yr hwn a’i gwnaeth hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.