1Ar Philistiaid a gymerasant arch DUW, ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod.
2A’r Philistiaid a gymerasant arch DUW, ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon.
3A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD. A hwy a gymerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le.
4Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef.
5Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn.
6A thrwm fu llaw yr ARGLWYDD ar yr Asdodiaid; ac efe a’u distrywiodd hwynt, ac a’u trawodd hwynt, sef Asdod a’i therfynau, â chlwyf y marchogion.
7A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch DUW Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw.
8Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch DUW Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch DUW Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch DUW Israel oddi amgylch yno.
9Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr ARGLWYDD yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd.
10Am hynny yr anfonasant hwy arch DUW i Ecron. A phan ddaeth arch DUW i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch DUW Israel, i’n lladd ni a’n pobl.
11Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch DUW Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a’n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy’r holl ddinas; trom iawn oedd llaw DUW yno.
12A’r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a drawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i’r nefoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
