2 Brenhinoedd 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac i Ahab yr oedd deng mab a thrigain yn Samaria. A Jehu a ysgrifennodd lythyrau, ac a anfonodd i Samaria, at dywysogion Jesreel, ac at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab, gan ddywedyd,

2Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi, canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd, a chennych chwi y mae cerbydau, a meirch, a dinasoedd caerog, ac arfau:

3Yna edrychwch yr hwn sydd orau, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad, ac ymleddwch dros dŷ eich arglwydd.

4A hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant, Wele, dau frenin ni safasant o’i flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni?

5Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a’r hwn oedd ar y ddinas, a’r henuriaid, a’r tadmaethod, at Jehu, gan ddywedyd, Dy weision di ydym ni, a’r hyn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni; ni wnawn ni neb yn frenin: gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg.

6Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy, gan ddywedyd, Os eiddof fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymerwch bennau y gwŷr, meibion eich arglwydd, a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel. A meibion y brenin, sef deng nyn a thrigain, oedd gyda phenaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt.

7A phan ddaeth y llythyr atynt, hwy a gymerasant feibion y brenin, ac a laddasant ddeng nyn a thrigain, ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau, ac a’u danfonasant ato ef i Jesreel.

8A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef, gan ddywedyd, Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin. Dywedodd yntau, Gosodwch hwynt yn ddau bentwr wrth ddrws y porth hyd y bore.

9A’r bore efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, Cyfiawn ydych chwi: wele, myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a’i lleddais ef: ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?

10Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr ARGLWYDD i’r ddaear, yr hwn a lefarodd yr ARGLWYDD am dŷ Ahab: canys gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a lefarodd efe trwy law Eleias ei was.

11Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a’i holl benaethiaid ef, a’i gyfneseifiaid ef, a’i offeiriaid, fel na adawyd un yng ngweddill.

12Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith hefyd, ac a ddaeth i Samaria. Ac fel yr oedd efe wrth dŷ cneifio y bugeiliaid ar y ffordd,

13Jehu a gyfarfu â brodyr Ahaseia brenin Jwda, ac a ddywedodd, Pwy ydych chwi? Dywedasant hwythau, Brodyr Ahaseia ydym ni; a ni a ddaethom i waered i gyfarch gwell i feibion y brenin, ac i feibion y frenhines.

14Ac efe a ddywedodd, Deliwch hwynt yn fyw. A hwy a’u daliasant hwy yn fyw, ac a’u lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio, sef dau ŵr a deugain, ac ni adawodd efe ŵr ohonynt.

15A phan aethai efe oddi yno, efe a gyfarfu â Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef, ac a gyfarchodd well iddo, ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda’th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, moes dy law. Rhoddodd yntau ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i’r cerbyd.

16Ac efe a ddywedodd, Tyred gyda mi, a gwêl fy sêl i tuag at yr ARGLWYDD. Felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef.

17A phan ddaeth efe i Samaria, efe a drawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria, nes iddo ei ddinistrio ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe wrth Eleias.

18A Jehu a gynullodd yr holl bobl ynghyd, ac a ddywedodd wrthynt, Ahab a wasanaethodd Baal ychydig, ond Jehu a’i gwasanaetha ef lawer.

19Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal, ei holl weision, a’i holl offeiriaid ef, na fydded un yn eisiau; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal: pwy bynnag a fyddo yn eisiau, ni bydd efe byw. Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra, fel y difethai efe addolwyr Baal.

20A Jehu a ddywedodd, Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal. A hwy a’i cyhoeddasant.

21A Jehu a anfonodd trwy holl Israel; a holl addolwyr Baal a ddaethant, ac nid oedd un yn eisiau a’r ni ddaethai: a hwy a ddaethant i dŷ Baal, a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd.

22Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd, Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal. Ac efe a ddug wisgoedd iddynt.

23A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr ARGLWYDD, ond addolwyr Baal yn unig.

24A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoethoffrymau, Jehu a osododd iddo allan bedwar ugeinwr, ac a ddywedodd, Os dianc yr un o’r dynion a ddygais i’ch dwylo chwi, einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef.

25A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm, Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a’r tywysogion, Ewch i mewn, lleddwch hwynt, na ddeled neb allan. Felly hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf: a’r swyddogion a’r tywysogion a’u taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal.

26A hwy a ddygasant allan ddelwau tŷ Baal, ac a’u llosgasant hwy.

27A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dŷ Baal, ac a’i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw.

28Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.

29Eto pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel, a’r rhai oedd yn Dan.

30A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Jehu, Oherwydd i ti wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a’r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel.

31Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith ARGLWYDD DDUW Israel â’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

32Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD dorri cyrrau Israel: a Hasael a’u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel;

33O’r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlad Gilead, y Gadiaid, a’r Reubeniaid, a’r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon, Gilead a Basan hefyd.

34A’r rhan arall o hanes Jehu, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

35A Jehu a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn Samaria, a Joahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

36A’r dyddiau y teyrnasodd Jehu ar Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help