1A dyma genedlaethau Esau: efe yw Edom.
2Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan; Ada, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;
3Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.
4Ac Ada a ymddûg Eliffas i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel.
5Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.
6Ac Esau a gymerodd ei wragedd, a’i feibion, a’i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a’i anifeiliaid, a’i holl ysgrubliaid, a’i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i’r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.
7Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd-drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.
8Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.
9A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.
10Dyma enwau meibion Esau: Eliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.
11A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, a Gatam, a Chenas.
12A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau.
13A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.
14Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chora.
15Dyma ddugiaid o feibion Esau; meibion Eliffas cyntaf-anedig Esau, dug Teman, dug Omar, dug Seffo, dug Cenas,
16Dug Cora, dug Gatam, dug Amalec: dyma y dugiaid o Eliffas, yng ngwlad Edom: dyma feibion Ada.
17A dyma feibion Reuel mab Esau; dug Nahath, dug Sera, dug Samma, dug Missa: dyma y dugiaid o Reuel, yng ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.
18Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau: dug Jeus, dug Jalam, dug Cora; dyma y dugiaid o Aholibama, merch Ana, gwraig Esau.
19Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu dugaid hwynt.
20Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanheddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana.
21A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma ddugiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom.
22A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.
23A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Seffo, ac Onam.
24A dyma feibion Sibeon; Aia ac Ana: hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad.
25A dyma feibion Ana; Dison ac Aholibama merch Ana.
26Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.
27Dyma feibion Eser; Bilhan, a Saafan, ac Acan.
28Dyma feibion Disan; Us ac Aran.
29Dyma ddugiaid yr Horiaid; dug Lotan, dug Sobal, dug Sibeon, dug Ana,
30Dug Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir.
31Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom, cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel.
32A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
33A Bela a fu farw; a Jobab, mab Sera o Bosra, a deyrnasodd yn ei le ef.
34Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.
35A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith.
36Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samla, o Masreca, a deyrnasodd yn ei le ef.
37A bu Samla farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.
38A bu Saul farw; a Baalhanan, mab Achbor, a deyrnasodd yn ei le ef.
39A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.
40A dyma enwau y dugiaid o Esau, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau; dug Timna, dug Alfa, dug Jetheth,
41Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon,
42Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,
43Dug Magdiel, dug Iram. Dyma y dugiaid o Edom, yn ôl eu preswylfeydd, yng ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.