1A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab, ac a letyasant yno.
2A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio’r wlad.
3A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant.
4Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy.
5A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt.
6Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.
7A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.
8A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ:
9A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r ARGLWYDD i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn.
10Canys ni a glywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o’r Aifft; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.
11A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr ARGLWYDD eich DUW, efe sydd DDUW yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.
12Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr ARGLWYDD, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir:
13Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, a’m brodyr, a’m chwiorydd, a’r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau.
14A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr ARGLWYDD i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.
15Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy’r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo.
16A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r mynydd, rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd.
17A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â’r hwn y’n tyngaist.
18Wele, pan ddelom ni i’r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a’th fam, a’th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i’r tŷ yma.
19A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef.
20Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw â’r hwn y’n tyngaist.
21A hi a ddywedodd, Yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a’u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr.
22A hwy a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd; ac a arosasant yno dridiau, nes i’r erlidwyr ddychwelyd. A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.
23Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o’r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt:
24A dywedasant wrth Josua, Yn ddiau yr ARGLWYDD a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.