1A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o’r gwersyll bob gwahanglwyfus, a phob un y byddo diferlif arno, a phob un a halogir wrth y marw.
3Yn wryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt, allan o’r gwersyll yr anfonwch hwynt; fel na halogont eu gwersylloedd, y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu plith.
4A meibion Israel a wnaethant felly, ac a’u hanfonasant hwynt i’r tu allan i’r gwersyll: megis y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
5A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
6Llefara wrth feibion Israel, Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD, a bod o’r enaid hwnnw yn euog:
7Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog ohono erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded i’r hwn y gwnaeth efe gam ag ef.
8Ac oni bydd i’r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i’r ARGLWYDD, fydd eiddo yr offeiriad; heblaw yr hwrdd cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto.
9A phob offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymant at yr offeiriad, fydd eiddo ef.
10A sancteiddio gŵr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i’r offeiriad, eiddo ef fydd.
11Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
12Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pob gŵr pan wyro ei wraig ef, a gwneuthur bai yn ei erbyn ef;
13A bod i ŵr a wnelo â hi, a bod yn guddiedig o olwg ei gŵr hi, ac yn gyfrinachol, a hithau wedi ei halogi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithau heb ei dal ar ei gweithred;
14A dyfod gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau wedi ei halogi; neu ddyfod ysbryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi:
15Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran effa o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm cof yn coffáu anwiredd.
16A nesaed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD.
17A chymered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymered yr offeiriad o’r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr.
18A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a diosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylo offrwm y coffa; offrwm eiddigedd yw efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith.
19A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gŵr gyda thi, ac oni wyraist i aflendid gydag arall yn lle dy ŵr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri’r felltith.
20Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heblaw dy ŵr dy hun:
21Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig, Rhodded yr ARGLWYDD dydi yn felltith ac yn llw ymysg dy bobl, pan wnelo yr ARGLWYDD dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig;
22Ac aed y dwfr melltigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen.
23Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â’r dwfr chwerw.
24A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith: ac aed y dwfr sydd yn peri’r felltith i’w mewn hi, yn chwerw.
25A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm gerbron yr ARGLWYDD, ac offrymed ef ar yr allor.
26A chymered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr.
27Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr, yr â’r dwfr sydd yn peri’r felltith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwydd: a’r wraig a fydd yn felltith ymysg ei phobl.
28Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddihangol, ac a blanta.
29Dyma gyfraith eiddigedd, pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr, ac ymhalogi:
30Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal ohono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon.
31A’r gŵr fydd dieuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.