Lefiticus 16 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymasant gerbron yr ARGLWYDD, ac y buant feirw;

2A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cysegr o fewn y wahanlen, gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: oherwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl.

3A hyn y daw Aaron i’r cysegr: â bustach ieuanc yn bech-aberth, ac â hwrdd yn boethoffrwm.

4Gwisged bais liain sanctaidd, a bydded llodrau lliain am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys lliain, a gwisged feitr lliain: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt.

5A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech-aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm.

6Ac offrymed Aaron fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ.

7A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

8A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr ARGLWYDD, a’r coelbren arall dros y bwch dihangol.

9A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr ARGLWYDD arno, ac offrymed ef yn bech-aberth.

10A’r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr ARGLWYDD, i wneuthur cymod ag ef, ac i’w ollwng i’r anialwch yn fwch dihangol.

11A dyged Aaron fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun:

12A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi gerbron yr ARGLWYDD, a llonaid ei ddwylo o arogl-darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen:

13A rhodded yr arogl-darth ar y tân, gerbron yr ARGLWYDD; fel y cuddio mwg yr arogl-darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw:

14A chymered o waed y bustach, a thaenelled â’i fys ar y drugareddfa tua’r dwyrain: a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa.

15Yna lladded fwch y pech-aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â’i waed ef megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa:

16A glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyda hwynt, ymysg eu haflendid hwynt.

17Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur ohono ef gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynulleidfa Israel.

18Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaed gymod arni; a chymered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.

19A thaenelled arni o’r gwaed seithwaith â’i fys, a glanhaed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel.

20A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, dyged y bwch byw:

21A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch.

22A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch.

23Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cysegr, a gadawed hwynt yno.

24A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymed ei boethoffrwm ei hun, a phoethoffrwm y bobl, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros y bobl.

25A llosged wêr y pech-aberth ar yr allor.

26A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i’r gwersyll.

27A bustach y pech-aberth, a bwch y pech-aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr, a ddwg un i’r tu allan i’r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a’u cnawd, a’u biswail, yn tân.

28A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i’r gwersyll.

29A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a’r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith.

30Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i’ch glanhau o’ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr ARGLWYDD.

31Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol.

32A’r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a’r hwn a gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna’r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd:

33Ac a lanha’r cysegr sanctaidd, ac a lanha babell y cyfarfod, a’r allor; ac a wna gymod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynulleidfa.

34A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help