1A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni â phin dyn, am Maher-shalal-has-bas.
2A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia.
3A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Galw ei enw ef, Maher-shalal-has-bas.
4Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, neu, Fy mam, golud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria.
5A chwanegodd yr ARGLWYDD lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd,
6Oherwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia:
7Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a’i holl ogoniant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef.
8Ie, trwy Jwda y treiddia ef: efe a lifa, ac a â drosodd, efe a gyrraedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel.
9Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir.
10Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae DUW gyda ni.
11Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf â llaw gref, ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd,
12Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch.
13ARGLWYDD y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi:
14Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem.
15A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir.
16Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion.
17A minnau a ddisgwyliaf am yr ARGLWYDD sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob, ac a wyliaf amdano.
18Wele fi a’r plant a roddes yr ARGLWYDD i mi, yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion.
19A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch â’r swynyddion, ac â’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid â’u DUW yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw?
20At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt.
21A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a’u DUW, ac a edrychant i fyny.
22A hwy a edrychant ar y ddaear; ac wele drallod a thywyllwch, niwl cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.