Jeremeia 20 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben-llywodraethwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn;

2Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a’i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD.

3A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar. Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef, Ni alwodd yr ARGLWYDD dy enw di Pasur, ond Magor-missabib.

4Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i’r rhai oll a’th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a’u caethgluda hwynt i Babilon, ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf.

5Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a’i holl lafur, a phob dim a’r y sydd werthfawr ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion, y rhai a’u hanrheithiant hwynt, ac a’u cymerant, ac a’u dygant i Babilon.

6A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.

7O ARGLWYDD, ti a’m hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar.

8Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd.

9Yna y dywedais, Ni soniaf amdano ef, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.

10Canys clywais ogan llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a’i mynegwn: pob dyn heddychol â mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddywedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a’i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno.

11Ond yr ARGLWYDD oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth.

12Ond tydi, ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a’r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn.

13Cenwch i’r ARGLWYDD, moliennwch yr ARGLWYDD: canys efe a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus.

14Melltigedig fyddo y dydd y’m ganwyd arno: na fendiger y dydd y’m hesgorodd fy mam.

15Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i’m tad, gan ddywedyd, Ganwyd i ti blentyn gwryw; gan ei lawenychu ef yn fawr.

16A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ymchwelodd yr ARGLWYDD, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd:

17Am na laddodd fi wrth ddyfod o’r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a’i chroth yn feichiog arnaf byth.

18Paham y deuthum i allan o’r groth, i weled poen a gofid, fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help