2 Cronicl 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef, ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel.

2Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda, ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda, ac yn ninasoedd Effraim, y rhai a enillasai Asa ei dad ef.

3A’r ARGLWYDD a fu gyda Jehosaffat, oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad, ac nad ymofynnodd â Baalim:

4Eithr DUW ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel.

5Am hynny yr ARGLWYDD a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth.

6Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr ARGLWYDD: ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a’r llwyni allan o Jwda.

7Hefyd yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a anfonodd at ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadeia, a Sechareia, a Nethaneel, a Michaia, i ddysgu yn ninasoedd Jwda.

8A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaia, a Nethaneia, a Sebadeia, ac Asahel, a Semiramoth a Jehonathan, ac Adoneia, a Thobeia, a Thob Adoneia, y Lefiaid; a chyda hwynt Elisama, a Jehoram, yr offeiriaid.

9A hwy a ddysgasant yn Jwda, a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD: felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Jwda, ac y dysgasant y bobl.

10Ac arswyd yr ARGLWYDD oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat.

11A rhai o’r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion, a theyrnged o arian; yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd, saith mil a saith gant o hyrddod, a saith mil a saith gant o fychod.

12Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu yn uchel; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau, a dinasoedd trysorau.

13A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda; a rhyfelwyr cedyrn nerthol yn Jerwsalem.

14A dyma eu rhifedi hwynt, yn ôl tŷ eu tadau: O Jwda yn dywysogion miloedd, yr oedd Adna y pennaf, a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol.

15A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil.

16A cherllaw iddo ef, Amaseia mab Sichri, yr hwn o’i wirfodd a ymroddodd i’r ARGLWYDD; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol.

17Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol, a chydag ef ddau can mil yn arfogion â bwâu a tharianau.

18A cherllaw iddo ef, Jehosabad, a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel.

19Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin, heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog, trwy holl Jwda.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help