1A hwy a rodiasant yng nghanol y fflam, gan foliannu Duw, a bendithio’r Arglwydd.
2Ac Asareias yn sefyll a weddïodd fel hyn; ac a agorodd ei enau yng nghanol y tân, gan ddywedyd,
3Bendigedig wyt ti, O Arglwydd Dduw ein tadau; ie, canmoladwy a gogoneddus yw dy enw yn dragywydd.
4Canys cyfiawn wyt ti ym mhob peth a’r a wnaethost i ni; a’th holl weithredoedd sy gywir; dy ffyrdd hefyd sydd uniawn, a’th holl farnau yn wir.
5A barnu gwirionedd a wnaethost yn yr holl bethau a ddygaist arnom, ac ar ddinas sanctaidd ein tadau, sef Jerwsalem: o achos mewn gwirionedd a barn y dygaist hyn oll arnom oherwydd ein pechodau;
6Canys pechasom, a gwnaethom yn anghyfreithlon trwy ymwrthod â thydi.
7Ac ym mhob peth ni a wnaethom ar fai, a’th orchmynion di ni wrandawsom arnynt, ac nis cadwasom, ac ni wnaethom y modd yr archesit i ni, fel y byddai ddaionus i ni.
8A’r cwbl a’r a ddygaist arnom, a chwbl a’r a wnaethost i ni, mewn gwir farn y gwnaethost oll:
9Ac a’n rhoddaist yn nwylo gelynion digyfraith, ac atgasaf wrthodwyr Duw, a brenin anghyfiawn gwaethaf ar yr holl ddaear.
10Ac yn awr ni allwn agori ein geneuau; yn gywilydd a gwaradwydd y’n gwnaethpwyd i’th weision di, a’r rhai a’th addolant.
11Na fwrw ni ymaith yn gwbl, er mwyn dy enw, ac na ddiddyma dy gyfamod:
12Ac na thyn dy drugaredd oddi wrthym, er mwyn Abraham dy anwylyd, ac er mwyn Isaac dy was, ac Israel dy sanctaidd;
13Y rhai y lleferaist wrthynt, gan ddywedyd yr amlheit eu had hwynt fel sêr y nef, ac fel y tywod sy gerllaw min y môr.
14Eto, Arglwydd, yr ydym wedi ein lleihau tu hwnt i bob cenhedlaeth; ac yr ydym heddiw wedi ein darostwng ym mhob gwlad am ein pechodau:
15Ac nid oes y pryd hyn na phennaeth, na phroffwyd, na blaenor, na phoethoffrwm, nac aberth, nac offrwm, nac arogl, na lle i aberthu ger dy fron di, modd y gallem gael trugaredd.
16Eto, a ni mewn enaid drylliedig ac ysbryd gostyngeiddrwydd, derbynier ni.
17Megis pe bai poethebyrth hyrddod a theirw, ac fel pe bai myrddiwn o ŵyn breision; felly heddiw bydded ein hoffrwm ni yn dy olwg; a chaniatâ i ni yn gwbl dy ddilyn di: canys nid oes waradwydd i’r rhai a ymddiriedant ynot ti.
18Ac yr awron y dilynwn di â’n holl galon, ac yr ofnwn di, ac y ceisiwn dy wynepryd.
19Na ddod ni yn waradwydd; eithr gwna â ni yn ôl dy addfwynder, ac yn ôl amlder dy drugaredd.
20Ac achub ni yn ôl dy ryfeddodau, O Arglwydd; a dod ogoniant i’th enw: a chywilyddier hwynt oll a’r sy yn gwneuthur drwg i’th weision;
21A gwaradwydder hwynt yn eu holl gadernid a’u gallu, a dryllier eu nerth hwynt;
22A gwybyddant mai tydi sydd Arglwydd, unig Dduw, a gogoneddus dros yr holl fyd.
23Ac ni pheidiodd gweinidogion y brenin, y rhai a’u bwriasent hwynt i mewn, â phoethi’r ffwrn â nafftha, a phyg, a charth, ac â briwydd.
24A’r fflam a daflodd uwchlaw’r ffwrn naw cufydd a deugain.
25A hi a ruthrodd, ac a losgodd y Caldeaid, y rhai a gyrhaeddodd hi ynghylch y ffwrn.
26Eithr angel yr Arglwydd a ddisgynnodd i’r ffwrn gydag Asareias a’i gyfeillion, ac a yrrodd fflam y tân allan o’r ffwrn;
27Ac a wnaeth ganol y ffwrn megis gwynt llaith yn sïo, fel na chyffyrddodd y tân â hwynt: ni ofidiodd ac ni flinodd mohonynt.
28Yna y tri, megis o un genau, a ganmolasant, ac a glodforasant, ac a ogoneddasant Dduw yn y ffwrn, gan ddywedyd,
29Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw ein tadau, i’th foliannu, ac i’th dradyrchafu yn dragywydd.
30A bendigedig yw dy enw gogoneddus a sanctaidd, ac i’w foliannu ac i’w dra-dyrchafu yn dragywydd.
31Bendigedig wyt ti yn nheml dy sanctaidd ogoniant, a thra chanmoladwy a thra gogoneddus yn dragywydd.
32Bendigedig wyt ti, yr hwn ydwyt yn gweled yr eigion, ac yn eistedd ar y ceriwbiaid, a thra chanmoladwy a thra dyrchafadwy yn dragywydd.
33Bendigedig wyt ti ar orseddfainc gogoniant dy deyrnas, a thra chanmoladwy a thra gogoneddus yn dragywydd.
34Bendigedig wyt ti yn ffurfafen y nefoedd, a thra chanmoladwy a gogoneddus yn dragywydd.
35Holl weithredoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
36Angylion yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra dyrchefwch ef yn dragywydd.
37Y nefoedd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
38Yr holl ddyfroedd goruwch y nef, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
39Holl nerthoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
40Yr haul a’r lloer, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
41Sêr y nef, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
42Pob cafod a gwlith, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
43Holl wyntoedd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
44Tân a phoethni, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
45Oerni a gwres, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
46Gwlith a rhew, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
47Nos a dydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
48Goleuad a thywyllwch, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
49Rhew ac oerfel, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
50Iâ ac eira, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
51Mellt a chymylau, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
52Bendithied y ddaear yr Arglwydd; moled a thra-dyrchafed hi ef yn dragywydd.
53Mynyddoedd a bryniau, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
54Yr holl bethau sydd yn tyfu yn y ddaear, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
55Ffynhonnau, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
56Moroedd ac afonydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
57Morfilod, a chwbl oll a’r a symud yn y dyfroedd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
58Holl ehediaid y nef, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
59Holl fwystfilod ac anifeiliaid, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
60Plant dynion, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
61Bendithied Israel yr Arglwydd; moled a thra-drychafed ef yn dragywydd.
62Offeiriaid yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
63Gwasanaethwyr yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
64Ysbrydion ac eneidiau y cyfiawn, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
65Y rhai sanctaidd ac â chalon ostyngedig, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd.
66Ananeias, Asareias, a Misael, bendithiwch yr Arglwydd; molwch a thra-dyrchefwch ef yn dragywydd: canys efe a’n hachubodd o uffern, ac a’n cadwodd o law marwolaeth, ac a’n gollyngodd o’r ffwrn, o ganol y fflam danllyd, ac a’n gwaredodd o ganol y tân.
67Cyffeswch yr Arglwydd, am ei fod yn ddaionus; am fod ei drugaredd yn dragywydd.
68Pawb oll ag sydd yn ofni’r Arglwydd, bendithiwch Dduw y duwiau; molwch ef, a chydnabyddwch fod ei drugaredd ef yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.