1 ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn.
2Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei DDUW. Sela.
3Ond tydi, ARGLWYDD, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen.
4A’m llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela.
5Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd.
6Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn.
7Cyfod, ARGLWYDD; achub fi, fy NUW: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.
8Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
