Y Salmau 12 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 12I’r Pencerdd ar Seminith, Salm Dafydd.

1Achub, ARGLWYDD; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.

2Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant.

3Torred yr ARGLWYDD yr holl wefusau gweneithus, a’r tafod a person ddywedo fawrhydi:

4Y rhai a ddywedant, Â’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni?

5Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo.

6Geiriau yr ARGLWYDD ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith.

7Ti, ARGLWYDD, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.

8Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help