Sechareia 12 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Baich gair yr ARGLWYDD i Israel, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo.

2Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i’r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.

3A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i’r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef, yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef.

4Y diwrnod hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y trawaf bob march â syndra, a’i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dŷ Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb.

5A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt.

6Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem.

7Yr ARGLWYDD a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda.

8Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr ARGLWYDD breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fydd fel DUW, fel angel yr ARGLWYDD o’u blaen hwynt.

9Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem.

10A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig.

11Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon.

12A’r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain;

13Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Simei wrtho ei hunan, a’u gwragedd wrthynt eu hunain;

14Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a’u gwragedd wrthynt eu hunain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help