1Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni’m ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i.
2Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun;
3Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogldarthu ar allorau priddfeini;
4Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri;
5Y rhai a ddywedent, Saf ar dy ben dy hun; na nesâ ataf fi: canys sancteiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tân yn llosgi ar hyd y dydd.
6Wele, ysgrifennwyd ger fy mron: ni thawaf; eithr talaf, ie, talaf i’w mynwes,
7Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, medd yr ARGLWYDD, y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd, ac a’m cablasant ar y bryniau: am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i’w mynwes.
8Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll.
9Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a’m hetholedigion a’i hetifeddant, a’m gweision a drigant yno.
10Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glyn Achor yn orweddfa gwartheg, i’m pobl y rhai a’m ceisiasant.
11Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr ARGLWYDD, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i’r llu acw, ac a lenwch ddiod-offrwm i’r niferi acw.
12Rhifaf chwithau i’r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i’r lladdedigaeth: oherwydd pan elwais chwi, nid atebasoch; pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf.
13Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele, fy ngweision a fwytânt, a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawenychant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch:
14Wele, fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon, a chwithau a waeddwch rhag gofid calon, ac a udwch rhag cystudd ysbryd.
15A’ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion: canys yr ARGLWYDD DDUW a’th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall:
16Fel y bo i’r hwn a ymfendigo ar y ddaear, ymfendigo yn NUW y gwirionedd; ac i’r hwn a dyngo ar y ddaear, dyngu i DDUW y gwirionedd: am anghofio y trallodau gynt, ac am eu cuddio hwynt o’m golwg.
17Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a’r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt.
18Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a’i phobl yn llawenydd.
19Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd.
20Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir.
21A hwy a adeiladant dai, ac a’u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth.
22Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo.
23Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr ARGLWYDD ydynt hwy, a’u hepil gyda hwynt.
24A bydd, cyn galw ohonynt, i mi ateb: ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf.
25Y blaidd a’r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a’r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.