Y Salmau 66 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 66I’r Pencerdd, Cân neu Salm.

1Llawenfloeddiwch i DDUW, yr holl ddaear:

2Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.

3Dywedwch wrth DDUW, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.

4Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela.

5Deuwch, a gwelwch weithredoedd DUW: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.

6Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.

7Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela.

8O bobloedd, bendithiwch ein DUW, a pherwch glywed llais ei fawl ef:

9Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro.

10Canys profaist ni, O DDUW: coethaist ni, fel coethi arian.

11Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau.

12Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i le diwall.

13Deuaf i’th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau,

14Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.

15Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl-darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela.

16Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch DDUW; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid.

17Llefais arno â’m genau, ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod.

18Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.

19 DUW yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.

20Bendigedig fyddo DUW, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help