1Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir:
2Mi a af o’th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a’r barrau heyrn a ddrylliaf:
3Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr ARGLWYDD, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw DUW Israel.
4Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y’th elwais erbyn dy enw: mi a’th gyfenwais, er na’m hadwaenit.
5Myfi ydwyf yr ARGLWYDD, ac nid arall, nid oes DUW ond myfi; gwregysais di, er na’m hadwaenit:
6Fel y gwypont o godiad haul, ac o’r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid arall:
7Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur hyn oll.
8Defnynnwch, nefoedd, oddi uchod, a thywallted yr wybrennau gyfiawnder; ymagored y ddaear, ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder, cyd-darddant: myfi yr ARGLWYDD a’u creais.
9Gwae a ymrysono â’i Luniwr. Ymrysoned priddell â phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Beth a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo?
10Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedli? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist?
11Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel, a’i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo.
12Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn arni: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd.
13Myfi a’i cyfodais ef mewn cyfiawnder, a’i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd ARGLWYDD y lluoedd.
14Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Llafur yr Aifft, a marsiandïaeth Ethiopia, a’r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae DUW, ac nid oes arall, nac oes DUW.
15Ti yn ddiau wyt DDUW yn ymguddio, O DDUW Israel yr Achubwr!
16Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd.
17Israel a achubir yn yr ARGLWYDD â iachawdwriaeth dragwyddol: ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth bythoedd.
18Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Creawdydd y nefoedd, y DUW ei hun a luniodd y ddaear, ac a’i gwnaeth; efe a’i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i’w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid neb amgen.
19Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o’r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer. Myfi yr ARGLWYDD wyf yn llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn.
20Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub.
21Mynegwch, a nesewch hwynt; cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr ARGLWYDD? ac nid oes DUW arall ond myfi; yn DDUW cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi.
22Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y’ch achuber: canys myfi wyf DDUW, ac nid neb arall.
23I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod.
24Yn ddiau yn yr ARGLWYDD, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho.
25Yn yr ARGLWYDD y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.