Deuteronomium 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ymhen pob saith mlynedd gwna ollyngdod.

2A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob echwynnwr i’w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr ARGLWYDD.

3Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda’th frawd:

4Megis na byddo ohonot ti gardotyn: canys yr ARGLWYDD gan fendithio a’th fendithia di, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu;

5Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.

6Canys yr ARGLWYDD dy DDUW a’th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.

7Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd:

8Ond gan agoryd agor dy law iddo, a chan fenthycio benthycia ddigon i’w angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisiau.

9Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw’r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod; a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr ARGLWYDD rhagot, a’i fod yn bechod i ti.

10Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno.

11Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus ac i’th dlawd, yn dy dir.

12Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a’th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt.

13A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:

14Gan lwytho llwytha ef o’th braidd, ac o’th ysgubor, ac o’th winwryf: o’r hyn y’th fendithiodd yr ARGLWYDD dy DDUW, dod iddo.

15A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a’th waredu o’r ARGLWYDD dy DDUW: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw.

16Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a’th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi:

17Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i’th forwyn.

18Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a’r ARGLWYDD dy DDUW a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.

19Pob cyntaf-anedig yr hwn a enir o’th wartheg, neu o’th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i’r ARGLWYDD dy DDUW: na weithia â chyntaf-anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf-anedig dy ddefaid.

20Gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD, ti a’th deulu.

21Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i’r ARGLWYDD dy DDUW.

22O fewn dy byrth y bwytei ef: yr aflan a’r glân ynghyd a’i bwyty, megis yr iwrch, ac megis y carw.

23Eto na fwyta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help