Eseia 34 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Nesewch, genhedloedd, i glywed, a gwrandewch, bobloedd; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi, y byd a’i holl gnwd.

2Canys llidiowgrwydd yr ARGLWYDD sydd ar yr holl genhedloedd, a’i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i’r lladdfa.

3A’u lladdedigion a fwrir allan, a’u drewiant o’u celanedd a gyfyd i fyny, y mynyddoedd hefyd a doddant o’u gwaed hwynt.

4Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: a’i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o’r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren.

5Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i farn, ac ar y bobl a ysgymunais.

6Cleddyf yr ARGLWYDD a lanwyd o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed ŵyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i’r ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.

7A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt, a’r bustych gyda’r teirw; a’u tir hwynt a feddwa o’u gwaed hwynt, a’u llwch fydd dew o fraster.

8Canys diwrnod dial yr ARGLWYDD, blwyddyn taledigaeth yn achos Seion, yw.

9A’i hafonydd a droir yn byg, a’i llwch yn frwmstan, a’i daear yn byg llosgedig.

10Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi; ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd.

11Y pelican hefyd a’r draenog a’i meddianna; y dylluan a’r gigfran a drigant ynddi; ac efe a estyn arni linyn anhrefn, a meini gwagedd.

12Ei phendefigion hi a alwant i’r frenhiniaeth, ond ni bydd yr un yno, a’i holl dywysogion hi fyddant ddiddim.

13Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd: a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr estrys.

14Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a’r cathod, a ymgyfarfyddant: yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr ŵyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi.

15Yno y nytha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda’i gymar.

16Ceisiwch allan o lyfr yr ARGLWYDD, a darllenwch; ni phalla un o hyn, ni bydd un heb ei gymar; canys fy ngenau, efe a orchmynnodd, a’i ysbryd, efe a’u casglodd hwynt.

17Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt, a’i law ef a’i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help