Judith 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 14

1Yna Judith a ddywedodd wrthynt hwy, Clywch fi yn awr, O frodyr: cymerwch y pen hwn, a chrogwch ef ar y fan uchaf o’n mur ni.

2A phan oleuo’r bore, a chyfodi’r haul ar y ddaear, cymerwch bob un eich arfau rhyfel, ac eled pob gŵr cadarn allan o’r ddinas, a gosodwch dywysog arnynt, megis pe byddech chwi ar fedr myned i waered i’r maes at wyliadwriaeth yr Asyriaid; ond nac ewch chwi i waered.

3Yna hwy a gymerant eu harfau, ac a ânt i’w gwersyll, ac a godant dywysogion llu’r Asyriaid, ac a redant i babell Oloffernes, ond nis cânt ef: yna ofn a syrth arnynt, a hwy a ffoant o’ch gŵydd chwi.

4Felly chwi, a holl drigolion ardaloedd Israel, a’u herlidiwch hwynt, ac a’u methrwch ar hyd eu ffyrdd.

5Ond cyn i chwi wneuthur y pethau hyn, gelwch i mi Achior yr Ammoniad, fel y gwelo efe, ac yr adwaeno yr hwn a ddiystyrodd dŷ Israel, a’r hwn a’i hanfonodd ef atom ni, megis i farwolaeth.

6Yna hwy a alwasant Achior allan o dŷ Oseias: a phan ddaeth efe, a gweled pen Oloffernes yn llaw rhyw ŵr yng nghynulleidfa’r bobl, efe a syrthiodd ar ei wyneb, a’i ysbryd ef a ballodd.

7Eithr pan godasant hwy ef i fyny, efe a syrthiodd wrth draed Judith, ac a ymgrymodd ger ei bron hi, ac a ddywedodd, Bendigedig wyt ti trwy holl bebyll Jwda, a thrwy’r Cenhedloedd; pwy bynnag a glywant dy enw di a synnant.

8Yn awr gan hynny mynega i mi yr hyn oll a wnaethost yn y dyddiau hyn. Yna Judith a fynegodd iddo ef yng nghanol y bobl yr hyn oll a wnaethai hi, er y dydd yr aethai hi allan, hyd yr awr honno y llefarai hi wrthynt hwy.

9A phan orffennodd hi lefaru, yna y bobl a floeddiasant â llef uchel, ac a roddasant lef lawen yn eu dinas.

10A phan welodd Achior yr hyn oll a wnaethai Duw Israel, efe a gredodd yn Nuw yn ddirfawr, ac a enwaedodd gnawd ei ddienwaediad; ac efe a gysylltwyd at dŷ Israel hyd y dydd hwn.

11A phan gyfododd y wawr, hwy a grogasant ben Oloffernes ar y mur: a’r holl wŷr a gymerasant eu harfau, ac a aethant allan yn finteioedd i fylchau’r mynydd.

12A phan welodd yr Asyriaid hwynt, hwythau a anfonasant eu tywysogion, y rhai a ddaethant at eu capteiniaid, a’u tribuniaid, ac at eu holl lywiawdwyr.

13A hwy a ddaethant at babell Oloffernes, ac a ddywedasant wrth yr hwn oedd swyddog ar ei eiddo ef oll, Deffro yn awr, ein harglwydd ni: canys y caethweision a feiddiasant ddyfod i waered yn ein herbyn i ryfel, fel y difether hwynt yn gwbl.

14Yna yr aeth Bagoas i mewn, ac a gurodd wrth ddrws y babell: oblegid efe a dybiodd ei fod ef yn cysgu gyda Judith.

15Pan nad atebodd neb, efe a agorodd, ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a’i cafodd ef wedi ei daflu ar y llawr yn farw, a’i ben wedi ei ddwyn ymaith oddi wrtho.

16Am hynny efe a waeddodd â llef uchel, ag wylofain, ac â griddfan ac â bloedd ddirfawr, ac a rwygodd ei ddillad.

17Yna efe a aeth i’r babell lle y byddai Judith yn aros, ac nis cafodd hi; am hynny efe a neidiodd at y bobl, ac a waeddodd,

18Y caethweision hyn a wnaethant ddirdra: un wraig o’r Hebreaid a wnaeth waradwydd i dŷ’r brenin Nabuchodonosor: canys wele Oloffernes yn gorwedd ar y ddaear, a’i ben heb fod ganddo.

19Pan glybu tywysogion llu’r Asyriaid hyn, hwy a rwygasant yn y fan eu dillad, a’u meddyliau hwy a gythryblwyd yn ddirfawr: ac yr oedd llefain a gweiddi mawr iawn o fewn y gwersyll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help