Job 12 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb.

3Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn?

4Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar DDUW, ac efe a’i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith.

5Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â’i draed.

6Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi DUW, y rhai y cyfoethoga DUW eu dwylo.

7Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid, a hwy a’th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.

8Neu dywed wrth y ddaear, a hi a’th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti.

9Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn?

10Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.

11Onid y glust a farna ymadroddion? a’r genau a archwaetha ei fwyd?

12Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau.

13Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo.

14Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno.

15Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a’u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear.

16Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a’r twyllodrus.

17Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr.

18Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt.

19Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith; ac a blyga y rhai cedyrn.

20Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodd y ffyddlon; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen.

21Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion.

22Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni.

23Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac yn eu distrywio hwynt: efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd, ac efe a’u dwg hwynt i gyfyngdra.

24Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

25Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help