Diarhebion 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo.

2Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr ARGLWYDD; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef.

3Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt.

4Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.

5Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau.

6Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus.

7Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth.

8Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.

9Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da.

10Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi.

11Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua.

12Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.

13Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.

14Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.

15Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre.

16Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus.

17Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar.

18Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth.

19Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.

20Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.

21A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.

22Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni.

23Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi.

24Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb.

25Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau.

26Yn ofn yr ARGLWYDD y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa.

27Ofn yr ARGLWYDD yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau.

28Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog.

29Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd.

30Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn.

31Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef.

32Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw.

33Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir.

34Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod.

35Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help