Y Salmau 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 11I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Yn yr ARGLWYDD yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn?

2Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon.

3Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn?

4Yr ARGLWYDD sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr ARGLWYDD sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.

5Yr ARGLWYDD a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster.

6Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt.

7Canys yr ARGLWYDD cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help