Diarhebion 18 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y Neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth.

2Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun.

3Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd.

4Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo.

5Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.

6Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau.

7Genau y ffôl yw ei ddinistr, a’i wefusau sydd fagl i’w enaid.

8Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol.

9Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i’r treulgar.

10Tŵr cadarn yw enw yr ARGLWYDD: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel.

11Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.

12Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd.

13Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.

14Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd?

15Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.

16Rhodd dyn a ehanga arno, ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid.

17Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef.

18Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.

19Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a’u hymryson sydd megis trosol castell.

20A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef.

21Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef.

22Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr ARGLWYDD.

23Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin.

24Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help