Exodus 31 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda;

3Ac a’i llenwais ef ag ysbryd DUW, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith,

4I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

5Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith.

6Ac wele, mi a roddais gydag ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.

7Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a’r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl lestri y babell,

8A’r bwrdd a’i lestri, a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri, ac allor yr arogl-darth,

9Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed,

10A gwisgoedd y weinidogaeth, a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt,

11Ac olew yr eneiniad, a’r arogl-darth peraidd i’r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.

12A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd,

13Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Diau y cedwch fy Sabothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, sydd yn eich sancteiddio.

14Am hynny cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.

15Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i’r ARGLWYDD: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth.

16Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth, gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau, yn gyfamod tragwyddol.

17Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a’r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.

18Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orffen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys DUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help