Y Salmau 143 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 143Salm Dafydd.

1Arglwydd, clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.

2Ac na ddos i farn â’th was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.

3Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.

4Yna y pallodd fy ysbryd o’m mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.

5Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.

6Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.

7O ARGLWYDD, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.

8Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid.

9Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O ARGLWYDD: gyda thi yr ymguddiais.

10Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di; canys ti yw fy NUW: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb.

11Bywha fi, O ARGLWYDD, er mwyn dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.

12Ac er dy drugaredd dinistria fy ngelynion, a difetha holl gystuddwyr fy enaid: oblegid dy was di ydwyf fi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help