1Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,
2Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion?
3Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu.
4Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu.
5Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist.
6Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a’th obaith?
7Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith?
8Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a heuant ddrygioni, a’u medant.
9Gan anadl DUW y difethir hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant.
10Rhuad y llew, a llais y llew creulon, a dannedd cenawon y llewod, a dorrwyd.
11Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd.
12Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono.
13Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion,
14Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i’m holl esgyrn grynu.
15Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll.
16Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy llygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd,
17A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na DUW? a fydd gŵr yn burach na’i wneuthurwr?
18Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd:
19Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd â’u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
20O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried.
21Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
