Doethineb Solomon 18 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 18

1Eithr i’th saint di yr oedd goleuni o’r mwyaf: llais y rhai yr oeddynt hwy yn eu clywed, ond nid oeddynt yn gweled eu gwedd hwynt; a hwy a’u cyfrifasant hwynt yn ddedwydd, am na ddioddefasent hwythau yr un pethau.

2Rhoddasant hefyd iddynt ddiolch am na wnaethent niwed, wedi cael cam o’r blaen; a dymunasant faddeuant am fod yn elynion iddynt.

3Yn lle hynny y rhoddaist iddynt hwy golofn o dân poeth, i flaenori yn y daith anhysbys, ac i fod yn haul diniwed i’r ymdaith barchedig.

4Yr oeddynt hwy yn ddiau yn haeddu bod heb oleuni, a’u carcharu mewn tywyllwch, y rhai a gadwasant dy blant di yng ngharchar, trwy y rhai yr oedd anllygredig oleuni’r gyfraith i’w roddi i’r byd.

5Pan amcanasent hwy ladd rhai bychain y saint, yna trwy un plentyn, yr hwn a fwriesid allan, ac a gadwesid i’w ceryddu hwynt, y cymeraist ymaith lawer o’u plant hwy, ac a’u difethaist hwynt ar unwaith yn y dwfr cryf.

6Ein tadau ni a gawsant wybodaeth am y nos honno o’r blaen; fel y byddent lawen, am eu bod yn gwybod yn ddiogel i ba lwon y credasent:

7Felly y derbyniodd dy bobl di iachawdwriaeth y rhai cyfiawn, a dinistr y gelynion.

8Canys megis y cosbaist ti ein gwrthwynebwyr, trwy’r un peth y rhoddaist anrhydedd i ni, y rhai a alwesit ti.

9Canys sanctaidd blant y rhai daionus a aberthasant yn ddirgel, ac a osodasant gyfraith dduwiol yn gytûn; ar fod y rhai sanctaidd yr un modd yn gyfranogion o dda a drwg, a’u tadau yn awr yn canu o’r blaen ganiadau mawl.

10Eithr anghyson waedd y gelynion a ddatseiniodd o’r tu arall; a gresynol nâd oedd yn cerdded am blant y galerid amdanynt.

11A’r un fath ddialedd y cosbid y gwas a’r meistr; yr un pethau yr oedd y gwreng a’r brenin yn eu dioddef.

12Rhai aneirif oedd ganddynt hwy oll, wedi meirw ar unwaith o’r un farwolaeth, fel nad oedd digon o rai byw i’w claddu hwynt: canys mewn un foment y difethwyd eu hiliogaeth anrhydeddusaf hwy.

13Canys lle na chredent ddim oherwydd y swynion; pan ddifethwyd y cyntaf-anedig, y cyffesasant mai plant Duw oedd y bobl hyn.

14Oherwydd pan oedd pob peth mewn distawrwydd tawel, a’r nos yng nghanol ei gyrfa fuan,

15Dy hollalluog air di a neidiodd o’r nef o’th orseddfa frenhinol, i ganol y wlad ddinistriol, fel rhyfelwr ffrom,

16Gan arwain dy orchymyn diragrith di yn lle cleddyf llym, yr hwn a safodd, ac a lanwodd bob peth â marwolaeth, ac oedd yn cyffwrdd â’r nefoedd, er ei ddisgyn i’r ddaear.

17Yna gweledigaethau breuddwydion aruthrol a’u blinasant hwy yn ddisymwth, a’r ofn nid oeddynt yn ei ddisgwyl a ddaeth arnynt.

18Ac wedi bwrw un i lawr yma, ac arall acw, yn hanner marw, hwy a fynegasant am ba achos yr oeddynt yn marw.

19Oblegid y breuddwydion, y rhai oedd yn eu blino hwynt, a raghysbysasent hyn, fel na ddifethid hwynt heb wybod paham yr oeddynt yn dioddef niwed.

20Cyffyrddodd profedigaeth angau weithiau â’r rhai cyfiawn hefyd, a bu dinistr ar y dyrfa yn y diffeithwch: ond ni hir barhaodd y dicter;

21Oblegid y gŵr difai a’u diffynnodd hwynt ar frys, gan arwain arfau ei swydd ei hun, sef gweddi, a iawn o arogl-darth, ac a safodd yn erbyn y llid, ac a ddibennodd y cystudd, gan ddangos mai dy was di oedd efe.

22Ac efe a orchfygodd y dinistrydd, nid a gryfder corff, na thrwy waith arfau; eithr â gair y darostyngodd efe yr hwn oedd yn cystuddio, gan goffáu llw a chyfamod y tadau.

23Canys pan oedd y meirw yn syrthio ar ei gilydd yn dyrrau, efe a safodd yn y canol, ac a dorrodd y dicter, ac a rannodd y ffordd oedd yn myned at y byw.

24Oblegid yn y wisg laes yr oedd yr harddwch oll, a gogoniant y tadau yng ngherfiad y pedair rhes o feini, a’th fawredd dithau yn y goron am ei ben ef.

25I’r rhai hy y rhoddes y dinistrydd le, ac a’u hofnodd hwynt: canys digon oedd yn unig brofi ohonynt y dicter.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help