1Yn y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a’r ddaear.
2A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd DUW yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.
3A DUW a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu.
4A DUW a welodd y goleuni, mai da oedd: a DUW a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch.
5A DUW a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf.
6 DUW hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd.
7A DUW a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.
8A’r ffurfafen a alwodd DUW yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd.
9 DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu.
10A’r sychdir a alwodd DUW yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a DUW a welodd mai da oedd.
11A DUW a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu.
12A’r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a DUW a welodd mai da oedd.
13A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y trydydd dydd.
14 DUW hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
15A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.
16A DUW a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu’r dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu’r nos: a’r sêr hefyd a wnaeth efe.
17Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes DUW hwynt, i oleuo ar y ddaear,
18Ac i lywodraethu’r dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd DUW mai da oedd.
19A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pedwerydd dydd.
20 DUW hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.
21A DUW a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.
22A DUW a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear,
23A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pumed dydd.
24 DUW hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.
25A DUW a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a’r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.
26 DUW hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
27Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.
28DUW hefyd a’u bendigodd hwynt, a DUW a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear.
29A DUW a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi.
30Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.
31A gwelodd DUW yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a’r bore a fu, y chweched dydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.