Y Salmau 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 7Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r ARGLWYDD oblegid geiriau Cus mab Jemini.

1 ARGLWYDD fy NUW, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr, a gwared fi.

2Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.

3O ARGLWYDD fy NUW, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;

4O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)

5Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.

6Cyfod, ARGLWYDD, yn dy ddicllonedd, ymddyrcha, oherwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist.

7Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder.

8Yr ARGLWYDD a farn y bobloedd: barn fi, O ARGLWYDD, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.

9Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y DUW cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau.

10Fy amddiffyn sydd o DDUW, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.

11 DUW sydd Farnydd cyfiawn, a DUW sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.

12Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd.

13Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.

14Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd.

15Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.

16Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.

17Clodforaf yr ARGLWYDD yn ôl ei gyfiawnder, a chanmolaf enw yr ARGLWYDD goruchaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help