Eseia 57 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Darfu am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a’r gwŷr trugarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith.

2Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodia yn ei uniondeb.

3Nesewch yma, meibion yr hudoles, had y godinebus a’r butain.

4Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi?

5Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau.

6Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt-hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod-offrwm, ac yr offrymaist fwyd-offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn?

7Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth.

8Yng nghil y drysau hefyd a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist.

9Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy beraroglau: anfonaist hefyd dy genhadau i bell, ac ymostyngaist hyd uffern.

10Ym maint dy ffordd yr ymflinaist; ac ni ddywedaist, Nid oes obaith: cefaist fywyd dy law; am hynny ni chlefychaist.

11Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystyriaist yn dy galon? oni thewais i â sôn er ys talm, a thithau heb fy ofni?

12Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a’th weithredoedd: canys ni wnânt i ti les.

13Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a’u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a’u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd.

14Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl.

15Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig.

16Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i.

17Am anwiredd ei gybydd-dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon.

18Ei ffyrdd a welais, a mi a’i hiachâf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i’w alarwyr.

19Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr ARGLWYDD: a mi a’i hiachâf ef.

20Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid.

21Ni bydd heddwch, medd fy NUW, i’r rhai annuwiol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help