1 Brenhinoedd 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg, ac a orffennodd ei holl dŷ.

2Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau.

3Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymtheg yn y rhes.

4Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.

5A’r holl ddrysau a’r gorsingau oedd ysgwâr, felly yr oedd y ffenestri; a golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.

6Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a’r porth oedd o’u blaen hwynt; a’r colofnau eraill a’r swmerau oedd o’u blaen hwythau.

7Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o’r naill gwr i’r llawr hyd y llall.

8Ac i’w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewn y porth o’r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a briodasai Solomon, fel y porth hwn.

9Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a’u lladd â llif, oddi fewn ac oddi allan, a hynny o’r sylfaen hyd y llogail; ac felly o’r tu allan hyd y cyntedd mawr.

10Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd, ac â meini o wyth gufydd.

11Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a chedrwydd.

12Ac i’r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhes o gerrig nadd, a rhes o drawstiau cedrwydd, i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD oddi fewn, ac i borth y tŷ.

13A’r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus.

14Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a’i dad yn ŵr o Tyrus: gof pres ydoedd efe; a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd ei holl waith ef.

15Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o’r ddwy.

16Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i’w rhoddi ar bennau y colofnau; pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall.

17Efe a wnaeth rwydwaith, a phlethiadau o gadwynwaith, i’r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i’r naill gnap, a saith i’r cnap arall.

18Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith, i guddio’r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i’r cnap arall.

19A’r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cufydd.

20Ac i’r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a’r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall.

21Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a alwodd ei henw hi Boas.

22Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofnau.

23Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn oddi amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch.

24A chnapiau a’i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch, deg mewn cufydd oedd yn amgylchu’r môr o amgylch: y cnapiau oedd yn ddwy res, wedi eu bwrw pan fwriwyd yntau.

25Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri oedd yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u pennau ôl hwynt oll o fewn.

26Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau lili: dwy fil o bathau a annai ynddo.

27Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl, a phedwar cufydd ei lled, a thri chufydd ei huchder.

28A dyma waith yr ystolion: ystlysau oedd iddynt, a’r ystlysau oedd rhwng y delltennau:

29Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a cheriwbiaid; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a’r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau.

30A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad.

31A’i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a’i genau hi oedd grwn, ar waith yr ystôl, yn gufydd a hanner; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau, a’i hystlysau yn bedwar ochrog, nid yn grynion.

32A’r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystôl; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd.

33Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men; eu hechelau, a’u bothau, a’u camegau, a’u hadenydd, oedd oll yn doddedig.

34Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl: o’r ystôl yr oedd ei hysgwyddau hi.

35Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch, o hanner cufydd o uchder; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a’i thaleithiau o’r un.

36Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi, ac ar ei thaleithiau hi, geriwbiaid, llewod, a phalmwydd, wrth noethder pob un, a chysylltiadau oddi amgylch.

37Fel hyn y gwnaeth efe y deg ystôl: un toddiad, un mesur, ac un agwedd, oedd iddynt hwy oll.

38Gwnaeth hefyd ddeng noe bres: deugain bath a ddaliai pob noe; yn bedwar cufydd bob noe; ac un noe ar bob un o’r deg ystôl.

39Ac efe a osododd bum ystôl ar ystlys ddeau y tŷ, a phump ar yr ystlys aswy i’r tŷ: a’r môr a osododd efe ar y tu deau i’r tŷ, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau.

40Gwnaeth Hiram hefyd y noeau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Solomon yn nhŷ yr ARGLWYDD.

41Y ddwy golofn, a’r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn; a’r ddau rwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau;

42A phedwar cant o bomgranadau i’r ddau rwydwaith, dwy res o bomgranadau i un rhwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau;

43A’r deg ystôl, a’r deg noe ar yr ystolion;

44Ac un môr, a deuddeg o ychen dan y môr;

45A’r crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau; a’r holl lestri a wnaeth Hiram i’r brenin Solomon, i dŷ yr ARGLWYDD, oedd o bres gloyw.

46Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng Succoth a Sarthan.

47A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri, oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt: ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith.

48A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr ARGLWYDD; yr allor aur, a’r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno;

49A phum canhwyllbren o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, o flaen y gafell, yn aur pur; a’r blodau, a’r llusernau, a’r gefeiliau, o aur;

50Y ffiolau hefyd, a’r saltringau, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, o aur coeth; a bachau dorau y tŷ, o fewn y cysegr sancteiddiaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.

51Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr ARGLWYDD. A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; yr arian, a’r aur, a’r dodrefn, a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help