Genesis 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd DUW ddyn, ar lun DUW y gwnaeth efe ef.

2Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.

3Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.

4A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.

5A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.

6Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enos.

7A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

8A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

9Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.

10Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

12Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Mahalaleel.

13A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

14A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

15A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd Jered.

16A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

17A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.

18A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch.

19A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

20A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

21Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Methwsela.

22Ac Enoch a rodiodd gyda DUW wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

23A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd.

24A rhodiodd Enoch gyda DUW, ac ni welwyd ef; canys DUW a’i cymerodd ef.

25Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.

26A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

27A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

28Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab;

29Ac a alwodd ei enw ef Noa, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr ARGLWYDD.

30A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

31A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; ac efe a fu farw.

32A Noa ydoedd fab pum can mlwydd; a Noa a genhedlodd Sem, Cham, a Jaffeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help